Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Ble mae’r clybiau yma?

Lleolir y clybiau ar hyd Gwynedd ac Ynys Môn, cysylltwch â ni er mwyn darganfod os oes clwb yn eich ardal chi. Mae pob clwb yn arwyddo fel aelod o’r mudiad Age Cymru Gwynedd a Môn.

Mae’r clwb yn elwa o hyn drwy gael eu gwahodd i’n cyfarfod blynyddol cyffredinol, a drwy dderbyn gwybodaeth berthnasol yn y post. Gwahoddir aelodau i’n fforymau chwarterol sydd yn cael eu cynnal yn yr ardal. Bydd gwybodaeth o'r fforymau yn cael eu dadansoddi gan y partner lleol a cenedlaethol i ffurfio polisïau ar gyfer y dyfodol er budd pobl hŷn yng Nghymru.

Nid oes clwb yn fy ardal… a oes modd sefydlu un?

Gallwch, pam lai, mae nifer o bobl yn penderfynu sefydlu clwb eu hunain. Gallwch gysylltu â’n swyddfa am gyngor ar sut i sefydlu clwb eich hunain, neu gymorth gyda cheisiadau grant a llawer iawn mwy.

Cysylltwch â ni
Ebost: info@acgm.co.uk
Ffôn: 01286 677711