Skip to content
Please donate

Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012

Published on 03 August 2012 11:00 AM

Mae Age Cymru'n gwahodd Eisteddfodwyr i ddod draw am seibiant a paned am ddim ar ar ein stondin yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llandŵ rhwng 4 a 11 Awst.

Byddwn hefyd yn darparu copïau o'n canllaw ‘Mwy o arian yn eich poced' yn rhad ac am ddim, ac yn gwerthu cardiau Nadolig Age Cymru a thocynnau raffl.

Bydd cyfle hefyd i arwyddo ein Siarter Diwedd ar Gam Drin.

Meddai Meryl Randell-Jones, ein Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu:

"Ar ôl ymweliad llwyddiannus iawn i Sioe Frenhinol Cymru, lle daeth mwy na 1,700 o bobl yn dod i siarad â ni, mae sioe deithio Age Cymru yn awr yn dod i'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Dewch draw i gael gwybod mwy am Age Cymru, y gwaith a wnawn a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu, a chyfarfod ein tîm cyfeillgar.

"Gallwn egluro'r newidiadau i'r Oedran Pensiwn y Wladwriaeth iddych,  a rhoi cyfle i chi roi cynnig ar ddefnyddio'r rhyngrwyd am y tro cyntaf, a sefydlu eich cyfrif e-bost eich hun.

"Ac ar ben hynny i gyd, gallwch ddod draw i eistedd i lawr a chael paned am ddim wrth wylio'r byd yn mynd heibio."

Mae stondin Age Cymru wedi ei leoli rhwng S4C a'r Maes Gwyrdd.

Medd Meryl:

"Glaw neu hindda, mae am fod yn wythnos brysur a llawn hwyl i Age Cymru.

"Ond cofiwch os y digwydd iddi hi lawio, mae gennym ni bonshos unigryw Age Cymru - mi gewch chi'ch un chi am gyfraniad bach, neu rhowch rhywbeth i ein Apêl Diwrnod Glawiog.

"Felly, galwch draw i'n gweld ni os ydych chi yn Llandŵ yr wythnos nesaf - bydd y tegell yn berwi a bydd na groeso cynnes iddych chi gan staff Age Cymru."

ENGLISH version here 

 

Last updated: Jan 12 2018

Become part of our story

Sign up today

Back to top