Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Eiriolwr Dementia - Caerdydd a Bro Morgannwg

Teilt y Swydd: Eiriolwr Dementia – Llawn Amser
Categori’r Swydd: Age Cymru – Prosiect Eiriolaeth Dementia
Lleoliad: Caerdydd a Bro Morgannwg
Cyflog: £28,222 (CALl £28,222)
Math o gytundeb: Cytundeb Tymor Penodol hyd at 31/3/26 - 35 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 25 Hydref 2024

Allwch chi ein helpu ni i wneud Cymru'n lle gwych i heneiddio? I'r rhan fwyaf o bobl, mae gwneud eu penderfyniadau a'u dewisiadau eu hunain yn fater o bwys. Mae bod yn rhan o’r prosesau o wneud penderfyniadau yn gyfle i fynegi hunaniaeth, ac mae hefyd yn agwedd bwysig o ryddid personol. Mae'r egwyddor hon wrth wraidd gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia.

Mae Age Cymru yn recriwtio Eiriolwr Dementia llawn amser (35 awr yr wythnos) i hyrwyddo a darparu eiriolaeth annibynnol i bobl sy’n byw gyda dementia yn ardaloedd Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r swydd yn cynnig patrwm gwaith hybrid, cyfuniad o weithio gartref / yn y swyddfa yng Nghaerdydd a theithio ar hyd a lled y rhanbarth. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu car ar gyfer defnydd busnes a bydd costau teithio’n cael eu cynnwys. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Nodwch: Mae’r cyflog a hysbysebir yn cyfateb i swydd amser llawn 35 awr yr wythnos. Bydd angen gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol; bydd hyn yn cael ei gadarnhau a’i drefnu ymlaen llaw.

RHAID cynnwys llythyr ategol llawn gyda phob cais, yn amlinellu eich sgiliau trosglwyddadwy a’ch profiad a pham yr hoffech chi weithio i Age Cymru yn cefnogi pobl hŷn sydd â dementia.

Bydd gennych:

  • Profiad a gwybodaeth weithredol ynglŷn ag eiriolaeth (wedi’i chyfarwyddo a heb ei chyfarwyddo)
  • Bod wedi cyflawni gwaith achos unigol
  • Bod wedi gweithio gydag eraill ar brosiectau a gwasanaethau llwyddiannus (gan gynnwys sefydliadau statudol a gwirfoddol)
  • Dealltwriaeth o ddementia a hawliau pobl sy'n byw gyda dementia
  • Ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth a gweithdrefnau diogelu yng Nghymru
  • Defnyddio strategaethau cyfathrebu creadigol er mwyn hwyluso cyfathrebu â phobl sy’n byw gyda dementia
  • Bod yn hynod drefnus, cadarnhaol ac allblyg
  • Gallu defnyddio holl becynnau MS Office, gan gynnwys Excel a Powerpoint
  • Bod yn hyderus yn cyflwyno sesiynau hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth
  • Cymhwyster lefel 4 City & Guilds mewn Eiriolaeth Annibynnol neu ymrwymiad i gyflawni hynny.

Mi fyddai’n dda petai gennych:

  • Y gallu i siarad Cymraeg (Dymunol)

Sut ydw i’n ymgeisio ar gyfer y swydd hon?

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn egluro sut rydych chi’n ateb y meini prawf ar gyfer y swydd hona pham yr hoffech weithio i Age Cymru. Ni fyddwn yn ystyried eich cais heb lythyr eglurhaol.

E-bostiwch eich CV a’r llythyr eglurhaol at hr@agecymru.org.uk

Disgrifiad swydd

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Beth rydyn ni’n ei gynnig

  • Gwyliau – cyfanswm o 27 diwrnod sydd yn cynnwys 24 dydd o’ch dewis chi a 3 dydd i’w defnyddio rhwng Nadolig a’r flwyddyn newydd – yn cynnwys cario ymlaen
  • Cynllun oriau gwaith hyblyg
  • Pensiwn cyflogwr
  • Yswiriant bywyd hael hyd at pedwar gwaith eich cyflog blynyddol
  • Cynllun taliad arian yn ôl gofal iechyd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Age Cymru yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac rydyn ni’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys ac addas, ta waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, statws priodasol/partneriaeth sifil, os ydynt yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau ar gyfer gweithio’n hyblyg.

Mae Age Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu oedolion a phlant sydd yn agored i niwed ac esgeulustod. Rydyn ni’n disgwyl bod pawb sydd yn gweithio i ni’n rhannu’r ymrwymiad hwn.

Rydyn ni’n eich annog i ymgeisio’n gynnar oherwydd rydyn ni’n cadw llygad ar geisiadau drwy gydol y cyfnod hysbysebu, ac mae gennym hawl i gau’r hysbyseb ar unrhyw bryd.

Nid yw Age Cymru yn derbyn cyswllt gan asiantaethau recriwtio na chyfryngau gwerthu. Dydyn ni ddim yn derbyn CVs ar hap gan asiantaethau recriwtio a dydyn ni ddim yn derbyn y tâl sydd yn gysylltiedig â nhw.

Age Cymru yw'r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru ac rydyn ni yma pan mae ein hangen fwyaf. Trwy ymchwil ac ymgyrchoedd, cynnig gwybodaeth a chyngor, darparu eiriolaeth annibynnol (trwy ein Prosiect HOPE ac eiriolaeth Dementia) a rhaglenni llesiant, rydym wir yn poeni am gefnogi pobl hŷn i fyw bywyd bodlon.

 

Last updated: Medi 27 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top