Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Swyddog Prosiect - HOPE - Powys a Cheredigion

Contract Cyfnod Penodol - (Contract cyfnod penodol tan 31/03/2025)
Oriau Gwaith: 28 awr yr Wynthnos. 
Amrediad Cyflog - £27,667 (FTE)
Ymgeisiwch Erbyn: 9 Hydref 2024

Mae Age Cymru’n chwilio am Swyddog Prosiect. Rydyn ni’n chwilio am unigolyn pendant, brwdfrydig, sydd â sgiliau cyfathrebu a gwych ac sydd yn gweithio’n dda gyda phobl. (Contract cyfnod penodol tan 31/03/2025).

Byddwch chi’n cefnogi Age Cymru gyda phrosiect HOPE (Helpu eraill i ymgysylltu a chymryd rhan) a’r gwaith pwysig maen nhw’n ei wneud. Mae’r prosiect hwn yn gweithio’n agos gydag Age Connects lleol a phartneriaid Age Cymru. Mae’r prosiect yn hynod o bwysig er mwyn darparu eiriolaeth annibynnol ar gyfer pobl hŷn (50+) a’u gofalwyr ledled Cymru.

Wrth gefnogi datblygiad eiriolaeth yn yr ardal, byddwch chi’n ein helpu ni i gyflawni nodau prosiect HOPE sydd yn ymwneud â darparu ymyrraeth gynnar i bobl hŷn drwy roi llais iddyn nhw. Mae’r prosiect cyffrous hwn yn cefnogi pobl i ymgysylltu, sicrhau bod pobl yn clywed eu lleisiau, eu cefnogi i rannu profiadau, gwella ymwybyddiaeth o eiriolaeth, a datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth.

Wrth weithio fel rhan o dîm prosiect rhanbarthol byddwch chi’n rhan o’r gwaith recriwtio, hyfforddi, a rheoli gwirfoddolwyr o ddydd i ddydd. Mae gwirfoddolwyr yn darparu cefnogaeth i bobl hŷn. Byddwch chi’n gyfrifol am gysylltu gyda phobl hŷn a’u gofalwyr yn gyson er mwyn creu atgyfeiriadau eiriolaeth, a dyrannu’r rhain i’r gwirfoddolwyr. Mae angen llawer o empathi a dealltwriaeth i gyflawni’r rôl hon.

Mae’r swydd yn cynnig gweithio hybrid, cymysgedd o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa, yn ogystal â theithio ledled Powys a Cheredigion. Bydd angen i’r deiliad llwyddiannus ddarparu car ar gyfer defnydd busnes a bydd treuliau teithio yn cael eu cynnwys. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau o Bowys a Cheredigion.

Nodwch fod y cyflog yn gyfwerth â swydd llawn amser 35 awr yr wythnos. Bydd y cyflog yn pro-rata ar gyfer 28 awr yr wythnos. Bydd angen achlysurol i weithio gyda’r hwyr ac ar benwythnosau, a bydd hyn yn cael ei gadarnhau a’i drefnu o flaen llaw.

Mae angen bod gennych chi:

  • Brofiad o weithio gydag eraill i ddarparu prosiectau a gwasanaethau llwyddiannus
  • Profiad o recriwtio, rheoli a gweithio gyda gwirfoddolwyr
  • Gwybodaeth am faterion sydd yn effeithio ar bobl hŷn a’u gofalwyr
  • Gwybodaeth am wasanaethau lleol yn y sector gyhoeddus neu’r sector wirfoddol
  • Profiad o gydgysylltu ac ymgymryd ag amrediad o gyfathrebiadau, marchnata a hysbysebu
  • Sgiliau gweinyddol arbennig, y gallu i gynnal systemau, rheoli prosesau a thalu sylw i fanylion
  • Sgiliau rhyngbersonol arbennig, a’r gallu i adeiladu a chynnal perthnasau effeithiol, ac i gydweithredu a gweithio ar eich liwt eich hun
  • Profiad o gydgysylltu digwyddiadau, er enghraifft cyfarfodydd, cynadleddau, gweithdai a seminarau
  • Sgiliau technoleg gwybodaeth, rheoli data a dadansoddi gwych.

Mi fyddai’n dda petai gennych:

  • Y gallu i siarad Cymraeg (Dymunol)

Sut ydw i’n ymgeisio ar gyfer y swydd hon?

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn egluro sut rydych chi’n ateb y meini prawf ar gyfer y swydd hona pham yr hoffech weithio i Age Cymru. Ni fyddwn yn ystyried eich cais heb lythyr eglurhaol.

E-bostiwch eich CV a’r llythyr eglurhaol at hr@agecymru.org.uk

Swydd ddisgrifiad

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Beth rydyn ni’n ei gynnig

  • Gwyliau – cyfanswm o 27 diwrnod sydd yn cynnwys 24 dydd o’ch dewis chi a 3 dydd i’w defnyddio rhwng Nadolig a’r flwyddyn newydd – yn cynnwys cario ymlaen
  • Cynllun oriau gwaith hyblyg
  • Pensiwn cyflogwr
  • Yswiriant bywyd hael hyd at 4 gwaith eich cyflog blynyddol
  • Cynllun taliad arian yn ôl gofal iechyd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Age Cymru yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac rydyn ni’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys ac addas, ta waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, statws priodasol/partneriaeth sifil, os ydynt yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau ar gyfer gweithio’n hyblyg.

Mae Age Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu oedolion a phlant sydd yn agored i niwed ac esgeulustod. Rydyn ni’n disgwyl bod pawb sydd yn gweithio i ni’n rhannu’r ymrwymiad hwn.

Rydyn ni’n eich annog i ymgeisio’n gynnar oherwydd rydyn ni’n cadw llygad ar geisiadau drwy gydol y cyfnod hysbysebu, ac mae gennym hawl i gau’r hysbyseb ar unrhyw bryd.

Nid yw Age Cymru yn derbyn cyswllt gan asiantaethau recriwtio na chyfryngau gwerthu. Dydyn ni ddim yn derbyn CVs ar hap gan asiantaethau recriwtio a dydyn ni ddim yn derbyn y tâl sydd yn gysylltiedig â nhw.

Age Cymru yw'r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru ac rydyn ni yma pan mae ein hangen fwyaf. Trwy ymchwil ac ymgyrchoedd, cynnig gwybodaeth a chyngor, darparu eiriolaeth annibynnol (trwy ein Prosiect HOPE ac eiriolaeth Dementia) a rhaglenni llesiant, rydym wir yn poeni am gefnogi pobl hŷn i fyw bywyd bodlon.

 

Last updated: Medi 27 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top