Scipiwch i'r cynnwys

Age Cymru Dyfed

Yn helpu Dyfed i garu bywyd yn hwyrach mewn bywyd

Croeso! Mae Age Cymru Dyfed yn gweithredu ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, yn cefnogi unigolion dros 50 oed i gynnal annibyniaeth a gwneud y mwyaf o fywyd wrth iddyn nhw heneiddio. Rydym yn gwneud hyn trwy amryw o wasanaethau yn cynnwys gwybodaeth a chyngor, cymorth digidol, cymorth yn y cartref, eiriolaeth, dementia, cefnogaeth i gyn-filwyr a gweithgareddau a digwyddiadau bod yn gyfaill.

Mae ein Gwybodaeth a Chyngor yn cefnogi pob elfen o fywyd person yn hwyrach mewn bywyd, o sut y gallwch gyrchu gofal cymunedol, i wiriadau buddion rhad ac am ddim megis Lwfans Gofalwr neu Lwfans Gweini a Chredyd Pensiwn. Mae ein prosiect Befriending Life Links yn helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd trwy gyfeillgarwch, cysylltiadau cymdeithasol, a chefnogaeth i fynd allan. Mae Cynhwysiad Digidol yn rhoi’r sgiliau i’r rheiny dros 50 mlwydd oed gyda siopa ar-lein, bancio a sgiliau galw dros fideo, tra bod ein Gwasanaethau Eiriolaeth yn helpu unigolion fynegi eu barnau er mwyn sicrhau bod eu hawliau yn cael eu cynnal. Mae hefyd Cyngor Dementia, y cymorth cartef gwobrwyedig Byw Adref, a Barn Cyn-filwyr – oll yn helpu i wella bywyd yn hwyrach yn Nyfed.

 

 

Byw Adref

Mae ein gwasanaeth glanhau cartrefi gwobrwyedig yng Ngheredigion/Sir Gaerfyrddin yn helpu’r 50+ i fyw’n annibynnol.

Nid oes unrhyw erthyglau i'w harddangos.

Our quality marks

Age Cymru Ceredigion has achieved the Age UK Charity Quality Standard (CQS).  The CQS is externally assessed by quality assessment experts, SGS.