Men's Sheds
Grŵp Cymdeithasol yw “Men’s Sheds” sydd yn cynnwys dynion obob math o gefndiroedd, sydd yn dymuno dysgu a rhannu sgiliau crefft gyda'i gilydd. Mae’n fan ble y gall dynion ddod at ei gilydd i rannu profiadau bywyd mewn awyrgylch cyfeillgar, hwyliog, croesawgar a diogel. Ble y gall dynion gael paned a rhoi’r byd yn ei le.
Mae “Men’s Sheds” yn anelu i:
- Ddysgu sgiliau newydd
- Gwneud ffrindiau newydd
- Dilyn eich diddordebau
- Ymlacio gyda ffrindiau
- Teimlad o fod yn perthyn
- Cyngor a Gwybodaeth
- a llawer mwy
Beth yw “men’s sheds”?
Mae “Men’s sheds” yn fan cyfarfod penodedig, cyfeillgar a chroesawgar ble gall ddynion ddod at ei gilydd ac ymgymryd â gweithgareddau amrywiol megis:
- Gwaith Coed
- Gwaith metel
- Ffotograffiaeth ddigidol
- Garddio
- Cyfrifiaduron
Os am ragor o wybodaeth cysylltwch â Biran ar 01286 671711