Scipiwch i'r cynnwys

Ymunwch â'n Dosbarth Cyfrifiaduron!

Mae ein dosbarthiadau cyfrifiadurol wythnosol yn lle i gwrdd â phobl newydd a hybu sgiliau newydd, neu i adnewyddu gwybodaeth.

Rydym yma bob dydd Mercher rhwng 1yp a 3yp yn Age Cymru Gwynedd a Môn, Y Cartref, Bontnewydd LL54 7UW yn ystafell 2.

Cost

Mae cost fechan i fynychu ein dosbarth cyfrifiadurol, fel y gallwn gael tiwtor profiadol i’ch cefnogi.

Os na allwch fynyrchu'r  dosbarth yma?

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o Ganolfannau heneiddio’n dda yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Edrychwch ar ein tudalennau heneiddio’n dda i weld os ydynt yn cynnig dosbarthiadau cyfrifiaduron yn eich ardal chi.

Darganfyddwch fwy

I gael gwybod mwy neu archebu lle, cysylltwch â ni. Gallwch ddod o hyd i'n holl fanylion cyswllt ar ein tudalen cyswllt â ni.

Ewch i'n tudalen Cysylltu â ni