Skip to content
Please donate

Age Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Published on 31 July 2013 02:30 PM

Cofiwch ddod am sgwrs a phaned gyda Age Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol 2013.

Byddwn yn Ninbych i roi cyngor ar sut i roi mwy o arian yn eich poced, Lwfans Gweini, newidiadau i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, a mwy!

Gallwch hefyd ddysgu am a chefnogi ein hymgyrch 'Sgamiau a thwyllo' i amddiffyn pobl hŷn rhag twyll.

Bydd gwirfoddolwyr ein rhaglen Cerdded Nordaidd hefyd ar ein stondin ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn i roi arddangosiadau Cerdded Nordaidd.

Meddai Meryl Randell-Jones, ein Pennaeth Marchnata,

"Dewch i gael sgwrs a phaned gyda Age Cymru os ydych yn Ninbych ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru - mae'n stondin ni yn ymyl pebyll yr Urdd ac S4C, yn agos at y Llwyfan Perfformio.

"Mi wnawn ni baned o de neu goffi i chi a gallwch chi siarad â'n tîm am bron unrhyw beth yr hoffech ei drafod - mae gennym lyfrau cyngor a gwybodaeth ar amrywiaeth o faterion.

"Cewch gopi o'n canllaw 'Mwy o Arian yn eich Poced',  glywed am gyfleoedd i  wirfoddoli gyda Age Cymru a dysgu am a  chefnogi ein hymgyrch 'Sgamiau a thwyllo' newydd.

"Bydd copïau o'n 'Rhestr Wirio Cartref Gofal' ar gael ar y stondin;  rhowch gynnig ar syrffio'r rhyngrwyd; prynwch gardiau Nadolig dwyieithog Age Cymru, a chymerwch ran yn ein cystadleuaeth 'Dyfalwch fy enw' am gyfle i ennill ein clown wedi ei wau.

"A pheidiwch ag anghofio i alw draw ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn i gwrdd â'n gwirfoddolwyr Rhaglen Cerdded Nordig a rhoi cynnig ar Gerdded Nordaidd eich hun."

Age Cymru ar daith yn ystod haf 2013.

 

Last updated: Jan 12 2018

Become part of our story

Sign up today

Back to top