Skip to content
Please donate

Mis Mawr Cymru

Published on 21 February 2014 02:00 PM

Mae Age Cymru yn galw ar bobl Cymru i ddathlu Cymru a Chymreictod yn ystod 'Mis Mawr Cymru' ym mis Mawrth.

Rydym yn trefnu y mis llawn hwyl i godi arian i gefnogi ein gwaith gyda pobl hŷn.

Meddai Emma Lionel o Age Cymru:

"Ymgyrch codi arian newydd Age Cymru ydi Mis Mawr Cymru, sydd yn cychwyn ar Ddydd Gŵyl Dewi ac mae'n rhedeg drwy gydol mis Mawrth.

"Rydym yn gofyn i bobl Cymru i gymryd rhan, i ddathlu Cymru a phopeth sy'n Cymraeg, a chael hwyl tra'n helpu Age Cymru i helpu pobl hŷn ar draws Cymru.

"Bydd Mis Mawr Cymru yn ffordd wych o ddod â phawb at eu gilydd i ddathlu amrywiaeth Cymru ac rydym i gyd yn gyffrous iawn yn ei gylch - mae rhywun o Melbourne yn Awstralia yn barod wedi cysylltu gyda ni yn awyddus i fod yn rhan o'r hwyl.

"Felly byddwch yn rhan o'r hwyl gyda Age Cymru, eich ffrindiau a'ch teulu a dathlwch Cymru a Chymreictod yn ystod Mis Mawr Cymru ym mis Mawrth."

Sut y gallwch chi gymryd rhan ym Mis Mawr Cymru:

• Heriwch eich ffrindiau i gystadleuaeth bobi pice ar y maen;
• Prynwch a gwisgwch gennin Age Cymru - mae'r rhain ar
gael yn siopau Age Cymru;• Dewch ynghyd ar gyfer parti Dydd Sadwrn Syfrdannol y Chwe Gwlad;
• Cynnhaliwch noson gwis ar thema Gymraeg;
• Talwch deyrnged i'ch hoff fandiau Cymraeg trwy ganu eu caneuon yn ystod noson karaoke;
• Trefnwch dwmpath traddodiadol Cymreig yn eich cymuned leol;
• Dewch draw i noson cerddoriaeth werin Age Cymru yng Nghlwb Cymdeithasol a Chwaraeon CMC,  Mynydd Bychan, Caerdydd ar 21 Mawrth;
• Ymunwch yn yr hwyl ar-lein drwy rannu eich lluniau ar Facebook a Twitter drwy ddefnyddio ein hashnod # bigwelshmonth;

Archebwch becyn codi arian a phrynu tocynnau ar gyfer ein noson cerddoriaeth werin nawr drwy ffonio Age Cymru ar 029 2043 1555 neu anfonwch e-bost atom.

 

Last updated: Jan 12 2018

Become part of our story

Sign up today

Back to top