Skip to content
Please donate

Mae Age Cymru yn lansio gwasanaeth cyfeillgarwch dros y ffôn o'r enw Ffrind Mewn Angen

Published on 02 June 2020 08:01 AM

Cysylltu poblogaeth hŷn Cymru yn ystod COVID-19

Mae Age Cymru yn lansio gwasanaeth cyfeillgarwch dros y ffôn o'r enw Ffrind Mewn Angen

Bydd Age Cymru yn lansio gwasanaeth Ffrind Mewn Angen i helpu i fynd i'r afael ag unigedd ac arwahanrwydd ymhlith y boblogaeth dros 70 oed o ganlyniad i bellhau cymdeithasol, hunan-ynysu neu warchod.

Bydd pobl hŷn yn gallu cysylltu gyda gwirfoddolwr o Age Cymru, sydd wedi ei hyfforddi a'i archwilio, drwy alwad cyfeillgarwch wythnosol am ddim. Bydd y gwasanaeth yn lansio ar ddydd Llun 1 Mehefin 2020 i gyd-fynd â chychwyn Wythnos Gwirfoddoli, ac mae wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei gefnogi gan CLILC Llywodraeth Cymru a Gwirfoddoli Cymru.

Mae'r fenter yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n genedl dosturiol, a bydd yn cefnogi ffrindiau neu gymdogion sy'n darparu cymorth anffurfiol i helpu pobl hŷn ac eraill sy'n pellhau'n gymdeithasol, hunan-ynysu neu warchod gyda gweithgareddau megis siopa neu gasglu presgripsiynau, i gael mynediad at amrywiaeth o adnoddau ar-lein i'w cefnogi nhw, a byddant yn gallu cofrestru ar gyfer diweddariadau a gwybodaeth ychwanegol.

Ers i'r cyfyngiadau ddod i rym, mae'r elusen wedi gwneud mwy na 10,000 o alwadau i bobl hŷn sy'n ynysig ac unig oherwydd y mesurau, ac wedi delio gyda mwy na 3,000 o ymholiadau dros eu llinell gymorth, felly mae'n gwbl ymwybodol o'r prif heriau ac ofnau sy'n wynebu'r bobl sydd dros 70 oed ar hyn o bryd.

Denise Morris, Gwynedd: "Mae'r galwadau ffôn gan Age Cymru yn codi fy ysbryd pan rwy'n teimlo isel. A phan roeddwn yn profi cyfnod heriol tu hwnt, bu i'w cymorth a chyngor fy annog i geisio'r cymorth arbenigol roeddwn ei angen."

George Rowles, Denbigh: "Waeth beth yw hyd yr alwad, maent yn fy atgoffa nad wyf ar fy mhen fy hun, sy'n bwysig yn ystod y cyfnod heriol hwn. Hefyd, mae'n braf cael sgwrs."

Barbara Burt, Castell-nedd Port Talbot: "Rwy'n hynod ddiolchgar am y galwadau ffôn, mae'n gwneud i mi deimlo'n llai unig. Mae bob unigolyn rwyf wedi siarad ag o wedi bod yn hyfryd, ac rydym yn trafod popeth o wleidyddiaeth i wyliau. Pe na byddwn yn derbyn y galwadau hyn, dim ond y ci fyddwn yn sgwrsio ag o, ac nid oes ganddo lawer i'w ddweud!"

Jeff Evans, Bro Morgannwg: Rwy'n edrych ymlaen at sgwrs, a gan fy mod yn byw ar fy mhen fy hun, mae wedi gwneud bywyd yn haws. Mae'n rhwydd siarad â'r bobl sy'n ffonio, ac maen nhw'n hynod gyfeillgar. Mae wedi bod yn hyfryd! Diolch Age Cymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd; "Mae nifer o bobl hŷn yn byw o fewn ein cymunedau sy'n teimlo'n unig neu ynysig bob dydd. Mae rhoi cyfle i bobl gysylltu, rhannu eu pryderon, sgwrsio a chwerthin gyda pherson arall yn rhoi cysur enfawr i iddynt."

Ychwanegodd y prif weithredwr; "Nid oes llawer o bobl dros 75 oed yn defnyddio'r we, felly mae gwasanaeth dros y ffôn yn bwysig er mwyn cysylltu â nhw a gwneud iddynt deimlo'n llai ynysig"

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae'n gyfnod heriol i bawb, yn enwedig i'r bobl hŷn sydd yn byw ar eu pen eu hunain. Mae'r dymuniad i gysylltu ag eraill yn deimlad naturiol; gallwn deimlo'n unig ac wedi pellhau hebddo.

"Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu cyllid ar gyfer y gwasanaeth hanfodol hwn. Rwy'n sicr y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau'r rhai sy'n ei ddefnyddio."

Pe byddech chi neu rywun yr ydych chi'n ei adnabod yn elwa o'r gwasanaeth Ffrind mewn Angen, cysylltwch ag Age Cymru am ragor o wybodaeth ar 08000 223 444.

Os hoffech wirfoddoli fel cyfaill gwirfoddol dros y ffôn ar gyfer y gwasanaeth Ffrind mewn Angen, cofrestrwch yn Gwirfoddoli Cymru

Sut fydd y Gwasanaeth Cyfeillio dros y Ffôn yn gweithio

  • Bydd gwirfoddolwyr yn cofrestru gyda Gwirfoddoli Cymru
  • Cynhelir cyfweliadau gyda'r gwirfoddolwyr dros y ffôn, ac yna gofynnir iddynt gyflwyno dau eirda ac anfon gwiriad DBS ymlaen os oes un ganddynt.
  • Bydd Age Cymru yn darparu hyfforddiant ar-lein, ac yna'n paru gwirfoddolwr gyda pherson hŷn ar gyfer sgwrs wythnosol dros y ffôn am 30 munud. Bydd yr elusen hefyd yn darparu cymorth parhaus i'r gwirfoddolwr.

 

 

Last updated: Jun 02 2020

Become part of our story

Sign up today

Back to top