Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Ymgyrchoedd

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am ymgyrchoedd Age Cymru a sut gallwch chi fod yn rhan ohonynt.

  • Cynllunio gofal ymlaen llaw

    Mae’n debygol y byddwn yn profi iechyd gwael am tua un rhan o bump o’n bywydau. Mae sicrhau bod ein teulu a’n ffrindiau yn gwybod pa fath o ofal yr hoffwn ei dderbyn petawn ni’n mynd yn sâl yn eu helpu i wneud y penderfyniadau cywir os na allwch chi gyfathrebu â nhw yn hwyrach yn eich bywyd.
  • Gwneud y broses o ryddhau pobl o’r ysbyty yn fwy diogel

    Nid oes angen help ar bawb sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty, ond i rai, mae cael help yn hanfodol. I'r rhai sydd angen help, mae'n bwysig eich bod yn gwybod pa help y gallai fod ei angen arnoch a ble gallwch ddod o hyd iddo. Mae deall eich hawliau chi a'ch anwyliaid yn eich helpu i gael yr help sydd ei angen arnoch er mwyn gwella.
  • Mynediad i fancio

    Gyda chymaint o ganghennau yn cau ar gyfradd gyflym, mae Age Cymru yn bryderus am yr effaith aflesol mae hwn yn cael ar allu nifer o bobl hŷn i gael mynediad i’w cyllid personol.
  • Newidiadau i ffonau llinell dir

    Mae rhwydwaith ffonau’r Deyrnas Unedig yn cael eu huwchraddio. Mae hyn yn golygu bod y gwasanaethau ar gyfer ffonau llinell dir yn newid. Byddwch chi’n medru parhau i gael ffôn llinell dir yn eich cartref, ond bydd y dechnoleg sydd yn ei gynnal ychydig yn wahanol. Efallai bydd angen i chi uwchraddio’r cyfarpar sydd gennych.
  • Pam ydyn ni’n aros? Oedi mewn gofal cymdeithasol.

    Mae pobl hŷn ledled Cymru yn profi oedi gofidus wrth aros am asesiadau gofal neu becynnau gofal. Gall yr oedi hyn gael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddyliol a chorfforol, ac iechyd y bobl sydd yn gofalu amdanynt.
  • Paratoi ar gyfer y gaeaf gydag Age Cymru a Nyth

    Mae Age Cymru a Nyth yn cydweithio i gefnogi pobl hŷn i baratoi ar gyfer y gaeaf.

 

Last updated: Ebr 24 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top