Scipiwch i'r cynnwys

Mae HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu) yn brosiect partneriaeth rhwng; Age Cymru, partneriaid lleol Age Cymru a phartneriaid Age Connects Cymru ar draws Cymru gyfan. Mae HOPE i ddarparu eiriolaeth i bobl hŷn (50+) a gofalwyr ar hyd a lled Cymru.

Ariennir HOPE gan Lywodraeth Cymru o dan y Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy tan ddiwedd mis Mawrth 2025.

Mae'r prosiect cyffrous hwn yn cefnogi pobl i; ymgysylltu, cymryd rhan, cael gwybodaeth, sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, deall eu hawliau, gwneud dewisiadau, cymryd rhan, rhannu profiadau, codi ymwybyddiaeth o eiriolaeth, a datblygu sgiliau a gwybodaeth.

Darganfod mwy am HOPE

Dod o hyd i fanylion cyswllt ein tîm HOPE