Scipiwch i'r cynnwys

Mae Age Cymru Dyfed yma i helpu pobl Dyfed i garu bywyd yn hwyrach fel y gwasanaeth cymorth dibynadwy i fynd iddo ar gyfer y rheiny dros 50 oed.

Rydyn ni yma i helpu Dyfed i garu bywyd yn hwyrach!

Yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae Age Cymru Dyfed yn elusen oed-gyfeillgar annibynnol sy’n gwasanaethu pobl Gorllewin Cymru. Rydym yma i bobl hŷn pan fydd ein hangen arnynt. Prif amcan Age Cymru Dyfed yw datblygu a darparu gwasanaethau cymorth ac ymyriadau arbenigol o ansawdd uchel ar gyfer pobl hŷn yn bennaf a'u teuluoedd yn y cartref a hefyd yn y gymuned.

Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae pobl hŷn yn wynebu rhai o’r heriau anoddaf. Ni all rhai mewn tlodi cael y gofal sylfaenol sydd ei angen arnynt i fyw ag urddas. Rydyn ni yma i'w helpu neu i'w cefnogi - mae unigrwydd yn frwydr feunyddiol a helpu'r rhai yn eu bywydau’n hwyrach i fwynhau bywyd annibynnol yw ein cenhadaeth.

Ynghyd â’n partneriaid lleol

  • darpariaeth o wybodaeth a chyngor
  • darparu rhaglenni llesiant
  • gwasanaethau eiriolaeth annibynnol
  • cefnogaeth i ofalwyr
  • helpu ein cyn-filwyr
  • prosiect cynhwysiant digidol

Mae ein sefydliad ar draws y tair sir yn ein galluogi i leihau costau cefn swyddfa, symleiddio ein gwasanaethau a chynyddu’r cyfle i ehangu’r modd y darperir gwasanaethau mewn ffordd gyson a mwy cynaliadwy ar draws ardal ddaearyddol ehangach.

Ein hymddiriedolwyr

  • Harvey Jones
  • Peter Hamilton
  • Caroline Streek
  • Allan Williams
  • Peter Loughran
  • Kate Curran
  • Vanessa Walker
  • Jack Lambert
  • Anthony Mattick
  • Mark Williams