Scipiwch i'r cynnwys

Os ydych chi dros 50 oed ac yn cael anhawster torri ewinedd eich traed eich hun, gallwn wneud hyn ar eich rhan (er hynny, mae rhai cyflyrau eithriedig yn berthnasol megis diabetes neu gymryd cyffuriau gwrthgeulo, holwch y swyddfa berthnasol fel y rhestrir isod).

Mae ein gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi i ddarparu gwasanaeth torri ewinedd traed sylfaenol gan yr Adran Podiatreg yn Ysbyty Aberteifi.

Ar gyfer apwyntiadau ac ymholiadau, cysylltwch â 03333 447 874.