Scipiwch i'r cynnwys

HSG

Os ydych chi'n byw yng Ngheredigion ac yn hŷn na 55 oed, yna cysylltwch â'n cynghorwyr arbenigol i weld sut y gallwn eich helpu.

Rydym yn cynnig cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor wedi'u teilwra i'ch anghenion, sy'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, helpu chi a/neu'ch gofalwr di-dâl i wneud y canlynol:

  • gwneud y mwyaf o'ch incwm, sy’n cynnwys gwiriad budd-daliadau llesiant
  • cael mynediad at gostau cyfleustodau is a/neu wasanaethau ychwanegol
  • cael mynediad at gyngor tai, sy’n cynnwys ailgartrefu, addasiadau, technolegau cynorthwyol ac ati
  • mynediad at gludiant am ddim/am gost is a Bathodynnau Glas
  • deall eich holl opsiynau mewn perthynas â chynllunio ar gyfer y dyfodol, sy’n cynnwys opsiynau gwneud penderfyniadau, cynllunio ar gyfer angladdau, ewyllysiau ac ati
  • cael mynediad at gymorth cymdeithasol, sy’n cynnwys clybiau a gweithgareddau, sy'n eich galluogi i barhau i ymgysylltu â'ch cymuned

a llawer mwy!

Ein nod yw eich helpu i gyflawni a chynnal yr ansawdd bywyd gorau posibl, yn ogystal â'r lefelau uchaf o annibyniaeth bersonol, yn eich cartref eich hun a'ch cymdogaeth gyfarwydd. Cysylltwch ag Age Cymru Dyfed am ragor o wybodaeth ar 03333 447874 neu anfonwch e-bost at hsgolderpeople@agecymrudyfed.org.uk.