Ymweliad AS yn Taflu Goleuni ar Adeiladu Dyfodol Cryf i Gyn-filwyr Hŷn
Cyhoeddwyd ar 22 Ionawr 2026 10:52 yh
Ddydd Llun 19 Ionawr 2026 gwahoddodd Age Cymru Dyfed Ann Davies - Caerfyrddin (AS dros Gaerfyrddin) i frecwast wythnosol y Military Veterans Club Cymru (MVCC)’. Roedd hyn er mwyn dangos y canlyniadau sy’n bosibl pan fydd cyrff statudol, asiantaethau’r trydydd sector, ac eraill yn dilyn ‘Adnabod, Cofnodi a Chynorthwyo’ - cynllun sydd wedi’i gynnwys yn ein cwrs e-ddysgu rhad ac am ddim Adeiladu Dyfodol Cryfach i Gyn-filwyr Hŷn.

Yn ystod cyfnod creu’r cwrs, caniataodd MVCC yn garedig inni gyfweld â nifer o’u cyn-filwyr. Gan fod hyn wedi digwydd flwyddyn yn ôl, roedd y tîm o’r farn y byddai rhoi tystysgrif ‘diolch am helpu’ yn arwydd croesawgar. Roedd Ann yn falch o gyflwyno’r tystysgrifau.
Ymunodd aelodau o Phantom Factory (ein partneriaid creu cyrsiau digidol) â ni hefyd, a oedd yn cynnwys Steve ac Emma Enyon, perchnogion y cwmni. Ymunodd Hayley Edwards, Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, a Cheredigion, yn ogystal â'r Cynghorydd Phillip Hughes, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Dai Jenkins, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cwmaman, ac aelodau o'r MVCC â ni hefyd.

Roedd yr aelodau a oedd yn bresennol wrth eu bodd yn cael eu serenadu gan aelodau o gôr Ysgol y Bedol gyda sawl cân galonogol yn cael eu canu yn Gymraeg.
