Scipiwch i'r cynnwys

Nodau Tudalen Cymdeithasol

Ar waelod bob tudalen we ar safle Age Cymru Dyfed y mae’r opsiwn i rannu’r dudalen. Mae Age Cymru Dyfed yn defnyddio digg, Delicious, twitter a Facebook er mwyn caniatáu i chi wneud hyn.

Felly  os yw rhywbeth ar safle Age Cymru Dyfed o ddiddordeb i chi a’ch bod eisiau ei gadw i’w ddefnyddio yn y dyfodol neu ei rannu gyda phobl yr ydych chi’n eu hadnabod, a allai fod â diddordeb iddynt, mae’r safleoedd hyn yn caniatáu i chi storio, tagio, a rhannu’r cyswllt we ar draws y rhyngrwyd.

Mae’r holl wefannau hyn ar gael i’w defnyddio am ddim ond bydd yn rhaid i chi greu cyfrif ond ar ôl i chi wneud hynny, gallwch ddechrau greu nodau tudalen.

digg

Mae digg yn wefan newyddion gymdeithasol, sy’n caniatáu i chi storio a rhannu cynnwys y dewch ar ei draws ar y rhyngrwyd.

Er mwyn cofrestru, ewch i: http://digg.com/register
Am ragor o wybodaeth:  http://digg.com/about

Delicious

Mae Delicious yn wasanaeth Nod Tudalen Cymdeithasol, ble y gallwch gadw’ch holl nodau tudalen ar-lein, eu rhannu gyda phobl eraill, a gweld beth y mae pobl eraill yn creu nodau tudalen ar eu cyfer.

I gofrestru, ewch i:http://delicious.com/register
Am ragor o wybodaeth:  http://delicious.com/about

Facebook

Mae Facebook yn wefan rhwydweithio cymdeithasol ble gall defnyddwyr ychwanegu ffrindiau ac anfon negeseuon atynt, a diweddaru eu proffiliau personol er mwyn hysbysu ffrindiau ynglŷn â’u hunain a grwpiau a phethau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt.

I gofrestru, ewch i: https://register.facebook.com/r.php
Am ragor o wybodaeth:  http://www.facebook.com/about.php

Twitter

Mae Twitter yn wasanaeth rhwydweithio cymdeithasol a blogio bach sy’n galluogi i’w ddefnyddwyr anfon a darllen negeseuon sy’n cael eu galw yn negeseuon trydar. Mae’r “tweets” yn negeseuon testun o hyd at 140 nod sy’n cael eu harddangos ar dudalen proffil yr awdur ac yn cael eu dosbarthu i danysgrifwyr yr awdur sy’n cael eu galw’n ddilynwyr.

I gofrestru, ewch i: https://twitter.com/signup
Am ragor o wybodaeth:  http://twitter.com/about