Adeiladu Dyfodol Cryfach i Gyn-filwyr Hŷn - mynd â'n llais i'r Senedd
Cyhoeddwyd ar 14 Hydref 2025 04:10 yh
Ddydd Mawrth 7 Hydref, teithiodd aelodau o Age Cymru Dyfed ac Age Cymru i Senedd Cymru i rannu gwaith ein prosiect Adeiladu Dyfodol Cryfach i Gyn-filwyr Hŷn.
Cyfarfu’r tîm, a oedd yn cynnwys Jim Glass, Owen Dobson a Heidi Holland o Age Cymru Dyfed, ynghyd â Rhian Morgan o Age Cymru ac Emma Eynon o’r Fantom Factory, â gwleidyddion a staff seneddol i gyflwyno ein cwrs eDdysgu newydd. Nod yr hyfforddiant yw helpu pobl a sefydliadau i ddeall profiadau ac anghenion cyn-filwyr hŷn yng Nghymru yn well, a rhoi’r offer iddynt i gynnig y math cywir o gefnogaeth.
Roedd y cyfarfod agored yn gyfle gwych i siarad am yr heriau y mae cyn-filwyr hŷn yn eu hwynebu. Roedd hefyd yn gyfle i ddangos sut y gall codi ymwybyddiaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w llesiant a'u hymdeimlad o berthyn. Roeddem wrth ein bodd â lefel y diddordeb a nifer y sgyrsiau a gynhaliwyd drwy gydol y dydd.
Un o'r adegau mwyaf calonogol oedd ein trafodaeth gyda Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a'n gwahoddodd i ddychwelyd i Senedd Cymru yn fuan i roi gwybodaeth i grŵp ehangach. Bydd hyn yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol a sefydliadau sy'n gweithio ar draws iechyd meddwl a llesiant, ac yn rhoi cyfle inni rannu effaith y prosiect hyd yn oed yn ehangach.
Hoffem hefyd ddiolch i Joyce Watson a'i thîm am ei gwneud hi'n bosibl i Age Cymru Dyfed gael llwyfan o fewn Senedd Cymru. Fe wnaeth eu cefnogaeth ein helpu i ddod â lleisiau cyn-filwyr hŷn yn uniongyrchol at yr unigiolion sy'n gwneud penderfyniadau.
Mae'r ymweliad hwn yn nodi cam pwysig arall wrth godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion cyn-filwyr hŷn yng Nghymru.
Y cam nesaf: Dau Dŷ’r Senedd ym mis Tachwedd. Yno byddwn yn parhau â'n cenhadaeth i hyrwyddo a chefnogi cyn-filwyr hŷn ar draws y DU.
Dysgwch ragor
I ddysgu rhagor am ein prosiect Adeiladu Dyfodol Cryfach i Gyn-filwyr Hŷn a chael mynediad at y cwrs e-ddysgu am ddim, ewch i wefan Age Cymru Dyfed.