Age Cymru Dyfed yn Arddangos Gwaith Partneriaeth i Ysgrifennydd y Cabinet yn y Ganolfan Byw'n Dda
Cyhoeddwyd ar 16 Awst 2025 05:20 yh
Roedd elusen Age Cymru Dyfed wrth ei bodd yn ymuno â PLANED a phartneriaid eraill i groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jane Hutt, i Ganolfan Byw'n Dda Sir Gâr yr wythnos hon. Rhoddodd yr ymweliad gyfle i arddangos y gwaith cydweithredol y mae Age Cymru Dyfed a’r partneriaid wedi'i arwain wrth ddatblygu a darparu gofod cymunedol bywiog, sydd bellach yn cael ei rannu gan fwy nag 20 o sefydliadau.
Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan yn cefnogi dros 600 o bobl bob mis. Mae’n cynnig ymgynghoriadau un-i-un, cyngor ac arweiniad, gweithgareddau grŵp, yn ogystal â sesiynau creadigol a digidol. Yn ystod ei hymweliad, gwelodd Ysgrifennydd y Cabinet drosto'i hun sut y gall datrysiad gwirioneddol dan arweiniad y gymuned chwarae rhan hanfodol mewn cymorth ataliol a llwybrau ôl-ofal.
Dywedodd Caroline Davies, Dirprwy Brif Weithredwr Age Cymru Dyfed:
“Mae Canolfan Byw’n Dda Sir Gâr yn enghraifft wych o bartneriaeth ar waith. Mae’n grymuso cymunedau, yn cefnogi llesiant, ac yn darparu mynediad at wasanaethau hanfodol mewn amgylchedd croesawgar. Yn Age Cymru Dyfed, rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â PLANED a phartneriaid eraill i ddarparu cyfleoedd sy’n hyrwyddo annibyniaeth a gwydnwch i bobl hŷn ledled gorllewin Cymru. Yma yn y Ganolfan, rydym yn cynnal gweithgareddau fel ein grŵp dawns Moove and Groove i bobl dros hanner cant oed, sydd nid yn unig yn annog gweithgaredd corfforol ond hefyd yn lleihau unigedd ac yn meithrin cyfeillgarwch.”
Ymunodd partneriaid a phrosiectau hefyd â thrafodaethau ar y diwrnod, a thynnu sylw at gryfder cydweithio ledled gorllewin Cymru. Gyda'i gilydd, fe wnaethant ddangos sut mae gan y model hwn – sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth yn Sir Gâr – y potensial i ysbrydoli siroedd eraill i ddatblygu eu hatebion pwrpasol, cyfunol eu hunain i anghenion lleol.
Cafodd y diwrnod ei gofnodi gyda lluniau gwych gan Martin Jones o Elusen Galar Plant Sandy Bear.