Scipiwch i'r cynnwys

Gwasanaeth Newydd i Gefnogi Pobl Hŷn ar Draws Sir Benfro

Cyhoeddwyd ar 25 Medi 2025 09:35 yb

I gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ar 1 Hydref 2025, mae Age Cymru Dyfed yn falch o lansio Gwasanaeth Grant Cymorth Tai newydd i Bobl Hŷn yn Sir Benfro. Digwydda hyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Gwasanaeth Pobl Hŷn y Grant Cymorth Tai yn rhaglen ymyrraeth gynnar i gefnogi gweithgarwch sy'n atal pobl hŷn rhag dod yn ddigartref, yn sefydlogi eu sefyllfa dai, neu'n helpu pobl a allai fod yn ddigartref i ddod o hyd i lety a'i gadw. Mae'r Gwasanaeth hwn wedi'i gynllunio i hyrwyddo annibyniaeth, llesiant ac urddas i bobl hŷn sy'n byw r draws Sir Benfro. Bydd y gwasanaeth yn:

  • darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai i helpu trigolion hŷn gan ganiatáu iddynt aros yn ddiogel, yn sicr ac yn gyfforddus yn eu cartrefi.
  • cefnogi annibyniaeth trwy gynorthwyo gydag anghenion ymarferol fel rheoli tenantiaethau, cael mynediad at addasiadau, a chysylltu â gwasanaethau lleol.
  • hyrwyddo llesiant trwy fynd i'r afael ag unigedd, annog cysylltiadau cymdeithasol, a’u cyfeirio at adnoddau cymunedol ac iechyd.
  • cynnig cymorth wedi'i deilwra gan gydnabod bod gan bob unigolyn amgylchiadau, dewisiadau a dyheadau unigryw wrth iddyn nhw heneiddio.

Mae'r lansiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yn gyfle addas i dynnu sylw at werth, cyfraniad a hawliau pobl hŷn yn Sir Benfro. Mae'r gwasanaeth newydd yn adlewyrchu ymrwymiad i sicrhau y gall trigolion hŷn barhau i fyw bywydau boddhaus ac annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain cyhyd â phosibl. Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol, darparwyr tai a grwpiau cymunedol, bydd gwasanaeth newydd Age Cymru Dyfed yn creu rhwydwaith cydgysylltiedig o gymorth sy'n rhoi pobl hŷn wrth wraidd gwneud penderfyniadau.

Dywedodd y Cynghorydd Simon Hancock:

“Fel ‘Hyrwyddwr Pobl Hŷn’ rwyf wrth fy modd yn gweld lansio’r rhaglen ymyrraeth gynnar newydd hon i gefnogi ein trigolion hŷn yn Sir Benfro. Mae’n adlewyrchu’r ymrwymiad sydd gan yr Awdurdod Lleol i sicrhau y gall trigolion hŷn barhau i fyw bywydau boddhaus yn eu cymunedau eu hunain.”

I ddathlu’r lansiad, bydd Age Cymru Dyfed yn cynnal diwrnod gwybodaeth galw heibio yn ein Swyddfa yn Hwlffordd ar 1 Hydref rhwng 10am a 2.30pm. Gwahoddir cleientiaid, preswylwyr, partneriaid atgyfeirio, a rhanddeiliaid cymunedol yn gynnes i gwrdd â’r tîm, dysgu rhagor am yr hyn y mae’r gwasanaeth yn ei gynnig, ac archwilio’r ystod o gefnogaeth sydd ar gael. Darperir lluniaeth, a bydd pecynnau gwybodaeth ar gael i’w cymryd adref ar y diwrnod.