Scipiwch i'r cynnwys

Cwrdd â'n Cysylltwyr Llesiant Dementia

Cyhoeddwyd ar 11 Awst 2025 07:26 yh

Meet our Dementia Wellbeing Connectors

Cyflwyno'r Cysylltwyr Dementia Rhanbarthol - Gwella Cydweithio a Gofal Ar Draws Cymunedau

Fel rhan o Lwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan, mae Age Cymru Dyfed yn cyflawni ‘Safon 12’ lle mae pobl sydd newydd gael diagnosis o ddementia yn cael pwynt cyswllt enwol (cysylltydd) o fewn ôl troed y Bwrdd Iechyd, o adeg y diagnosis hyd at ddiwedd oes neu dderbyniad i ofal.

Mae Cysylltwyr Llesiant Dementia yn gyfrifol am gyd-gynhyrchu cynllun llesiant a chefnogaeth barhaus i unigolion sy'n byw yng Ngheredigion, Sir Gâr a Sir Benfro.

Dewch i gwrdd â'n cysylltwyr yn y fideo byr hwn. Dysgwch sut maen nhw'n helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd.

Sut rydym yn gwneud gwahaniaeth

  • Yn y chwarter diwethaf, adroddodd 96% o unigolion sy’n byw gyda dementia (People Living with Dementia) (PLWD) eu bod yn teimlo'n rymus i siarad drostynt eu hunain a chyfrannu at benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau
  • Roedd 94% o PLWD yn teimlo mewn rheolaeth o a /neu wedi'u cael eu cefnogi gyda'u cynllun llesiant
  • Roedd 100% o PLWD yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u bod yn cael eu trin ag empathi, urddas a pharch. Gwelodd yr unigolion bod ansawdd eu bywyd y gorau posib o ystyried amgylchiadau ac iechyd ac maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n ddigonol wrth gael mynediad at lywio’r system iechyd a gofal cymdeithasol.

Am gysylltu â ni?

Aranwen Ellacott
Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro

aranwen.ellacott@agecymrudyfed.org.uk
03333 447 874
DWC@agecymrudyfed.org.uk
www.ageuk.org.uk/cymru/dyfed/