Scipiwch i'r cynnwys

Taliadau Tanwydd Gaeaf

Cyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2025 08:31 yh

Warm

Bydd pensiynwyr ar draws Cymru a Lloegr yn derbyn rhwng £100 a £300, gyda thaliadau'n cael eu gwneud yn awtomatig drwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Bydd y swm a delir i bensiynwyr yn dibynnu a ydynt yn byw fel cwpl, a oes ganddynt hawl i fudd-daliadau eraill ac a ydynt yn byw mewn cartref gofal ai peidio.

Daw hyn wrth i'r Adran rybuddio am gynnydd o 150% mewn sgamiau Taliadau Tanwydd Gaeaf. Mae'r sgamiau hyn yn gweld twyllwyr yn esgus bod yn swyddogion y Llywodraeth neu'n ddarparwyr taliadau mewn ymgais i dwyllo pobl er mwyn iddynt rhannu eu gwybodaeth bersonol.

Wrth i’r taliadau ddechrau, mae pensiynwyr yn cael eu hannog i barhau i gadw llygad am y negeseuon sgam hyn a chofio na fyddant byth yn cael eu gofyn i ddarparu manylion banc i dderbyn y taliad. Ni ddylai unrhyw un sy'n derbyn neges destun yn eu gwahodd i wneud cais am daliad ymgysylltu â hi, na chlicio ar ddolenni. Yn lle hynny, dylid ei hanfon ymlaen i 7726.

Dylai mwyafrif helaeth y pensiynwyr weld y taliad hwn yn eu cyfrif banc erbyn canol mis Rhagfyr. Os oes gan bensiynwr gwestiynau ynghylch a ydynt yn gymwys neu nad ydynt wedi derbyn taliad erbyn 28 Ionawr 2026, fe'u hanogir i gysylltu â'r Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf ar 0800 731 0160.

Darllenwch y datganiad i’r wasg yn llawn yma