Lleisiau nas clywyd o’r Rhyfel Mawr: Cyfweliadau prin â chyn-filwyr o Gymru yn cael eu rhyddhau am y tro cyntaf
Cyhoeddwyd ar 10 Awst 2025 02:03 yh
Lleisiau nas clywyd o’r Rhyfel Mawr: Cyfweliadau prin â chyn-filwyr o Gymru yn cael eu rhyddhau am y tro cyntaf
Recordiadau sain hanesyddol o gyn-filwyr o Gymru ar gael i’r cyhoedd ar ôl deugain mlynedd
Mae archif hynod o gyfweliadau â chyn-filwyr o’r Rhyfel Byd Cyntaf, a recordiwyd yn yr 1980au gan y Lefftenant-Cyrnol David Mathias DL, wedi dod ar gael i’r cyhoedd am y tro cyntaf, diolch i bartneriaeth rhwng Age Cymru Dyfed a Chasgliad y Werin Cymru. Mae’r cyfweliadau’n rhan o Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru, sef prosiect a reolir gan Age Cymru Dyfed i gofnodi, rhannu a diogelu atgofion y sawl a fu’n gwasanaethu.
Mae’r casgliad yn cynnwys naw o recordiadau sain â dynion a fu’n gwasanaethu ar Ffrynt y Gorllewin, sy’n rhannu eu profiadau yn eu geiriau eu hunain. Nid yw’r cyfweliadau hyn wedi cael eu rhyddhau o’r blaen, ac maent yn paentio darlun prin a dirdynnol o’r hyn yr oedd bod yn filwr yn ei olygu yn ystod un o’r rhyfeloedd mwyaf dinistriol a welwyd erioed.
Roedd y rhan fwyaf o’r cyn-filwyr a gafodd eu cyfweld yn dod o Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Surrey. Fodd bynnag, clywir llais Heinrich Krappen hefyd, sef peiriant-saethwr o’r Almaen, a gafodd ei gyfweld ym Mönchengladbach gyda chymorth cyfieithydd ac sy’n cynnig safbwynt traws-ddiwylliannol unigryw ar y rhyfel.
Mae’r archif yn cynnwys cyfweliad newydd â David Mathias hefyd, lle mae’n myfyrio ynghylch yr hyn a’i hysgogodd i ddechrau casglu’r straeon hyn, gan gynnwys yr adeg pan gyfarfu ar hap â dau gyn-filwr o Gymru yng Nghoed Mametz yn 1987 pan oedd yn arwain yr uned o’r Fyddin a oedd yn cludo cerflun coffa’r Ddraig Goch.
“Roedd yn fraint enfawr cael gwneud hyn, ac roeddwn yn benderfynol o gofnodi cymaint ag y gallwn cyn i’r dynion hyn fynd yn angof. Dechreuodd y cyfan ar hap, pan soniodd cyd-swyddog fod ei gymydog wedi ymladd yng Nghoed Mametz. Arweiniodd y naill recordiad at y llall. Cefais y fraint hefyd o fod ynghlwm wrth y gwaith o osod cofeb y Ddraig Goch yng Nghoed Mametz yn 1986–87. Fy sgwadron i oedd yn gyfrifol am gludo’r cerflun, a grëwyd yng Nghymru gan artist o Gymru, ac am ei roi wrth ymyl y plinth lle mae’n sefyll yn awr. Y flwyddyn wedyn, cefais fy ngwahodd i ddigwyddiad dadorchuddio’r gofeb, a oedd yn anrhydedd mawr arall. Yno y cwrddais â rhai o gyn-filwyr y frwydr honno, y bûm yn recordio sgyrsiau â nhw yn ddiweddarach.”
Cafodd y cyfweliad ei recordio gan Hugh Morgan OBE, Cydlynydd Cyn-filwyr gydag Age Cymru Dyfed, ac meddai:
“Mae gwrando ar leisiau’r cyn-filwyr a fu’n ymladd yn y Rhyfel Mawr ac sy’n sôn am eu profiadau ym Mons, Ypres a’r Somme, o frwydro yn y ffosydd a bod yn garcharorion rhyfel i gael eu gwenwyno â nwy a’u hanafu, yn ein cludo yn ôl i fyd, cyfnod a lle arall. Mae casgliad unigryw’r Lefftenant-Cyrnol David Mathias o gyfweliadau, a recordiwyd ganddo ddegawdau’n ôl, yn drysor pur. Rydym felly’n hynod ddiolchgar i David am rannu â ni ei gasgliad a fu’n ‘gudd’ tan yn awr, fel y gall y cyhoedd ei fwynhau am ddegawdau i ddod.”
Er bod ansawdd y sain yn amrywio, ni ellir gwadu effaith emosiynol a gwerth hanesyddol y recordiadau. Diolch i Berian Elias o Gasgliad y Werin Cymru, mae’r sain wedi’i gwella lle bynnag y bo’n bosibl er mwyn sicrhau bod y lleisiau’n haws i’w clywed a’u rhannu.
“Rydym yn ddiolchgar dros ben i David a Hugh am rannu’r recordiadau hyn â Chasgliad y Werin Cymru. Maent yn rhoi cipolwg prin ar fywydau pobl y dylanwadodd un o benodau tywyllaf ein hanes arnynt, ac mae pob llais yn paentio darlun personol sy’n aml iawn yn mynd ar goll gyda threigl amser. Mae’n fraint cael helpu i sicrhau bod eu straeon yn cael eu cofio a’u clywed.”
Mae’r cyfweliadau’n ymdrin â phopeth o recriwtio a hyfforddi i fyw yn y ffosydd, cael eu hanafu a’u dal, a thrawma rhyfel. Mae rhai’n cofio eiliadau o hiwmor, ac eraill yn cofio colli cyfeillion annwyl.
Mae’r cyn-filwyr sy’n rhan o’r cyfweliadau yn cynnwys:
- Albert Victor Wheeler (Porth Tywyn)
- Daniel Archibald Williams (Porth Tywyn)
- Ivor Watkins (Abertawe)
- Robert Owen Williams (Llanelli)
- Gwynnoro Morris (Abertawe)
- Reg Fry (Llanelli)
- Heinrich Krappen (Yr Almaen)
- Gwilym Blair Williams (Surrey)
- Alf Dixon (Pen-bre)
Mae’r casgliad pwerus hwn o hanes llafar ar gael yn awr i’w archwilio ar Gasgliad y Werin Cymru, sy’n sicrhau bod yr atgofion hyn o gyfnod y rhyfel yn parhau’n rhan o’n hanes cyffredin.
Gallwch wrando ar y casgliad llawn ar: https://www.casgliadywerin.cymru/users/44171