Scipiwch i'r cynnwys

Domestic Abuse

Cam-drin domestig: mae angen gwneud mwy i gefnogi pobl hŷn, rydym yma i'ch helpu. Ar hyn o bryd mae gan Age Cymru Dyfed gymorth ar draws Sir Gaerfyrddin,cysylltwch am gymorth.

Cam-drin domestig

Mae angen gwneud mwy i gefnogi pobl hŷn yng ngorllewin Cymru. Mae Age Cymru Dyfed yma i'ch helpu chi i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnoch fel person hŷn.

Adroddodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am ddigwyddiadau o bobl hŷn sy’n profi cam-drin lle nad yw’r broblem yn cael ei hadrodd yn ddigonol a heb ei chofnodi’n ddigonol. Problemau y byddwn yn mynd i'r afael â hwy: Gwybodaeth a chyngor a Chyfeirio at gymorth perthnasol.

Mae'n iawn i siarad yn gyhoeddus.

Efallai eich bod chi:

  • ddim yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael
  • yn teimlo nad oes cymorth ar gael i genedlaethau hŷn
  • yn annibynnol yn ariannol ar yr un sy’n camdrin
  • teimlo ymdeimlad o gywilydd ac embaras
  • ofn canlyniadau riportio am gamdriniaeth

Cysylltwch os oes angen help arnoch

Cysylltwch â'n tîm os oes angen help arnoch. Gallwn ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i rai dros 50 oed i'ch helpu i gael yr help sydd ei angen arnoch. Ar hyn o bryd, yn Sir Gaerfyrddin yn unig y mae darpariaeth ar gyfer cymorth. Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin a hoffech siarad â rhywun am gam-drin domestig, cysylltwch â ni.

E-bost: reception@agecymrudyfed.org.uk.