Scipiwch i'r cynnwys

apply for a medal

Os wnaethoch wasanaethu yn y lluoedd arfog ac rydych yn gymwys, gallwch wneud cais am fedal.

Sut ydw i'n gwybod a ydw i'n gymwys?

Os dyfarnwyd medal i chi am wasanaeth yn unrhyw un o'r lluoedd canlynol, yna gallwch wneud cais.

  • Y Fyddin
  • Y Llynges Frenhinol
  • Y Môr-filwyr Brenhinol
  • Y Llu Awyr Brenhinol (RAF)
  • Y Gwarchodlu
  • Y Lluoedd Wrth Gefn

Mae gofynion cymhwyster ar gyfer pob medal y mae'n rhaid i chi ei bodloni.

Rwyf am wneud cais ar ran perthynas

Rydych yn gallu gwneud cais am fedal ar ran rywun arall. 

Os ydynt dal yn fyw, rhaid i chi gael Atwrneiaeth Arhosol.

Os yw eich perthynas cyn-filwr wedi marw, dim ond os mai chi yw'r perthynas agosaf y gallwch wneud cais; hynny yw, partner y cyn-filwr, priod, plentyn hynaf, neu wyres hynaf.

Sut ydw i’n gwneud cais am fedal?

Gallwch lawr lwytho'r ffurflen o wefan GOV UK a'i dychwelyd i'r cyfeiriad a restrir ar y ffurflen.

Os ydych yn gwneud cais ar ran rhywun arall, dylech gynnwys copi o'ch Atwrneiaeth neu Dystysgrif Marwolaeth Cyn-filwr.

Ceisio am fedal

Lawr lwythwch a llenwch y ffurflen o wefan GOV UK.

Cael y ffurflen

Pa mor hir fydd yn rhaid i mi aros?

Ar yr amod bod yr holl feini prawf cymhwysedd wedi'u bodloni, bydd y fedal yn cyrraedd o fewn 12 wythnos o wneud y cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais am fedal, gallwch e-bostio'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn: dbs-medals@mod.uk