Scipiwch i'r cynnwys

Age Cymru Dyfed ac Age Cymru yn lansio hyfforddiant arloesol i gefnogi cyn-filwyr hŷn y Lluoedd Arfog

Cyhoeddwyd ar 23 Gorffennaf 2025 08:07 yh

news release

Age Cymru Dyfed ac Age Cymru yn lansio hyfforddiant arloesol i gefnogi cyn-filwyr hŷn y Lluoedd Arfog

Ddydd Mercher 16 Gorffennaf, lansiodd Age Cymru Dyfed ac Age Cymru gwrs hyfforddi e-ddysgu newydd arloesol yn swyddogol a gynlluniwyd er mwyn gwella cefnogaeth i gyn-filwyr hŷn y Lluoedd Arfog ledled y DU. Cynhaliwyd y lansiad yn Nghoedardd Coffa Cenedlaethol yn Alrewas, Swydd Stafford, gan ddod â chyn-filwyr a helpodd i lunio'r hyfforddiant ynghyd, ochr yn ochr â'i ddatblygwyr, Fantom Factory.

Yn rhan o brosiect tair blynedd Adeiladu Dyfodol Cryfach i Gyn-filwyr Hŷn, mae'r fenter hon wedi'i hariannu gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog. Ei nod yw mynd i'r afael ag anghenion penodol poblogaeth gynyddol y DU o gyn-filwyr hŷn - amcangyfrifir bod bron i 590,000 ohonynt dros 80 oed..[i]

Mae'r cwrs e-ddysgu am ddim, a gynlluniwyd ar gyfer staff rheng flaen yn y GIG, awdurdodau lleol, a'r sectorau gwirfoddol, yn gryno, yn effeithiol, ac yn cymryd dim ond 30 i 45 munud i'w gwblhau. Mae’r cwrs ar gael yn Saesneg a Chymraeg, ac yn sicrhau hygyrchedd ar draws Cymru a'r DU ehangach. Mae ei gwmpas ledled y DU yn ceisio sefydlu dull cyson o ofalu am gyn-filwyr, ac yn rhoi’r ddealltwriaeth a'r offer sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol i adnabod a chefnogi cyn-filwyr hŷn yn fwy effeithiol.

“Mae’r hyfforddiant hwn yn grymuso gweithwyr proffesiynol i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau cyn-filwyr hŷn,” meddai Peter Hamilton – Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Age Cymru Dyfed. “Drwy gydnabod eu gwasanaeth a’u cysylltu â’r rhwydweithiau cymorth y maent yn eu haeddu, gallwn leihau unigedd, gwella llesiant, ac yn y pen draw leddfu’r pwysau ar wasanaethau gofal iechyd.”

Bydd y cwrs yn annog gofal ataliol drwy sicrhau bod cyn-filwyr sy'n dod i mewn i wasanaethau iechyd neu ofal yn cael eu hadnabod yn briodol, bod marciwr meddygol cyn-filwr yn cael ei ychwanegu at eu cofnodion, a'u bod wedi'u cysylltu â rhwydweithiau cymorth cymunedol a thrydydd sector. Disgwylir i'r mesurau hyn leihau aildderbyniadau i'r ysbyty, bydd yn mynd i'r afael ag unigrwydd, ac yn cryfhau cysylltiadau cymunedol.

Mae'r prosiect yn gam sylweddol ymlaen o ran cefnogi cyn-filwyr hŷn—un sy'n cydnabod eu cyfraniad gydol oes ac sy’n sicrhau eu bod yn derbyn y parch a'r gofal y maent wedi'u haeddu.

Am ragor o wybodaeth neu i gael mynediad at yr hyfforddiant, cysylltwch â James Glass - Arweinydd Prosiect ar james.glass@agecymrudyfed.org.uk neu ffoniwch 07399861363.

[i] Characteristics of UK armed forces veterans, England and Wales - Office for National Statistics

Mae prosiect Adeiladu Dyfodol Cryfach i Gyn-filwyr Hŷn yn brosiect tair blynedd rhwng Age Cymru Dyfed ac elusen Age Cymru, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog. 

Mae Age Cymru Dyfed yn elusen annibynnol sy'n gyfeillgar i oedran ac sy'n gwasanaethu pobl gorllewin Cymru. Mae’n cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Eu prif amcan yw datblygu a darparu gwasanaethau cymorth arbenigol ac ymyriadau o ansawdd uchel i bobl hŷn a'u teuluoedd yn bennaf gartref ac yn y gymuned.

Age Cymru yw'r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw cymdeithas sy'n cynnig y profiad gorau o fywyd hŷn i bawb yng Nghymru. Mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a'u galluogi i lunio penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.