Cynllun Trafnidiaeth Gymunedol Newydd i Hybu Symudedd i Drigolion Anabl ar draws Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd ar 09 Awst 2025 07:25 yh
Mae Age Cymru Dyfed wedi ymuno â'r darparwr trafnidiaeth gymunedol lleol Dolen Teifi i lansio menter newydd, 'On the Go – Ar Y Ffordd' - cynllun teithio trafnidiaeth gymunedol a gynlluniwyd er mwyn gwella hygyrchedd ac ansawdd bywyd trigolion anabl ar draws Sir Gaerfyrddin.
Wedi'i ariannu drwy grant hael gan y Motability Foundation, bydd y prosiect yn cyflwyno 10 cerbyd hygyrch i gadeiriau olwyn ar draws 10 lleoliad cymunedol dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'r fenter uchelgeisiol hon yn mynd i'r afael â bwlch gwasanaeth critigol drwy ddarparu trafnidiaeth ddibynadwy, nid yn unig ar gyfer apwyntiadau hanfodol ond hefyd ar gyfer teithiau cymdeithasol a hamdden. Bydd yn grymuso unigolion i fyw bywydau llawnach, mwy cysylltiedig.
Mae'r cynllun wedi'i osod i gynnig opsiynau gyrru hyblyg drwy hyfforddi gyrwyr gwirfoddol neu aelodau o'r teulu i weithredu'r cerbydau, a sicrhau cefnogaeth wedi'i theilwra ar gyfer pob cymuned.
Meddai Caroline Davies, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Age Cymru Dyfed:
“Mae hyn yn ymwneud â mwy na dim ond mynd o A i B, mae'n ymwneud ag annibyniaeth, cysylltiad cymdeithasol a llesiant. Drwy'r prosiect hwn, ein nod yw cefnogi pobl yn gyfannol, a nodi anghenion ychwanegol ac adeiladu cefnogaeth gymunedol hirdymor a chynaliadwy.”
Dywedodd Tom Cowcher, Cadeirydd Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen
Dolen Teifi,
“Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Age Cymru Dyfed i gyflawni’r cynllun pwysig newydd hwn. Ers dros 20 mlynedd, mae Dolen Teifi wedi bod ar flaen y gad o ran darparu trafnidiaeth gymunedol ar draws ein rhanbarth. Mae’r bartneriaeth hon yn ehangu cyrhaeddiad ein gwasanaethau a bydd yn helpu i lenwi rhai o’r bylchau niferus mewn darpariaeth trafnidiaeth hygyrch ar draws Sir Gaerfyrddin. Bydd yn cynnig mwy o symudedd, annibyniaeth a chefnogaeth i’r rhai sydd ei angen fwyaf.”
Yn ogystal â darparu trafnidiaeth uniongyrchol, bydd y cynllun yn monitro adborth defnyddwyr yn weithredol, yn hwyluso atgyfeiriadau at wasanaethau eraill, ac yn sicrhau adrodd sy'n seiliedig ar ddata er mwyn bodloni gofynion cyllidwyr.
Bydd y fenter yn cael ei rheoli ar y cyd gan Uwch Dîm Rheoli Age Cymru Dyfed a Dolen Teifi. Bydd staff ymroddedig yn goruchwylio gweithrediadau dyddiol, cydlynu cerbydau, cefnogaeth gwirfoddolwyr, a gwelliant parhaus.
Drwy gyfuno darparu gwasanaethau ar lawr gwlad â chynllunio strategol, mae On the Go – Ar Y Ffordd yn gosod y sylfaen ar gyfer trawsnewid hirdymor mewn atebion trafnidiaeth cymunedol ar gyfer oedolion hŷn ac anabl ar draws y rhanbarth.
Mae'r prosiect newydd yn mynd i greu 4 swydd llawnamser newydd yng ngorllewin Cymru yn Age Cymru Dyfed a Dolen Teifi.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth am y prosiect cysylltwch ag arweinydd y prosiect John Brennan:
- Communitytransport@agecymrudyfed.org.uk
- 07399861341