Age Cymru Dyfed yn Dathlu Cyn-filwyr yng Ngŵyl y Lluoedd Arfog
Cyhoeddwyd ar 11 Tachwedd 2026 03:51 yh

Ymunodd Tîm Cyn-filwyr Age Cymru Dyfed yn ddiweddar â thros 40 o sefydliadau yng Ngŵyl y Lluoedd Arfog Castell-nedd Port Talbot, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Siopa Aberafan. Daeth y digwyddiad â'r gymuned ynghyd ar gyfer diwrnod o goffáu, dathlu ac adloniant, a chydnabod cyfraniad ein Lluoedd Arfog a phwysigrwydd cefnogi'r gymuned o gyn-filwyr.
Roedd ein Tîm Cyn-filwyr wrth eu bodd yn cymryd rhan, gan arddangos dau o'n prosiectau:Adeiladu Dyfodol Cryfach i Gyn-filwyr Hŷn a’n prosiect treftadaeth Gwasanaeth Cenedlaethol. Arddangosodd y tîm wybodaeth am y prosiectau a chawsant gyfle i sgwrsio â siopwyr, rhannu rhagor am ein gwaith a chodi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr hŷn.
Roedd cryn ddiddordeb yn ein baneri, gydag ymwelwyr yn awyddus i ddysgu rhagor am yr hyn rydym yn ei wneud a sut mae Age Cymru Dyfed yn cefnogi pobl sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Mae digwyddiadau fel hyn yn gyfle gwerthfawr i gysylltu â chymunedau lleol, dathlu cyfraniadau cyn-filwyr, a helpu i sicrhau bod cyn-filwyr hŷn yn gwybod i bwy i droi am gymorth.
Cefnogi cyn-filwyr hŷn Drwy ein gwaith 'Gwerthfawrogi Cyn-filwyr' mae Age Cymru Dyfed wedi ymrwymo i helpu cyn-filwyr hŷn i gael gafael ar wybodaeth, cymorth a chyfleoedd i wella eu llesiant a chadw cysylltiad. I ddarganfod rhagor am ein gwaith a’r cymorth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Building Stronger Futures for Older Veterans.