Scipiwch i'r cynnwys

Deall Galar trwy'r Tymhorau sy'n Newid

Cyhoeddwyd ar 11 Tachwedd 2026 04:04 yh

bereavement

Wrth i olau dydd bylu a'r tywydd oeri, gall y newid yn y tymhorau ddwyn emosiynau cymysg. I rywun sy'n profi profedigaeth, gall yr hydref a'r gaeaf fod yn gyfnodau arbennig o anodd, gan ddod â hatgofion am anwyliaid, newidiadau i drefniadau cyfarwydd, a theimladau o unigrwydd.

Yn Age Cymru Dyfed, mae ein Tîm Profedigaeth yn deall bod galar yn effeithio ar bawb mewn amryw ffyrdd. Nid oes ffordd gywir na ffordd anghywir o alaru, a gall cyfnodau penodol o'r flwyddyn wneud y profiad yn fwy heriol.

Sut gall y tymhorau effeithio ar alar

Gall y newid o'r hydref i'r gaeaf effeithio ar ein hwyliau, ein hegni a'n llesiant. Gall dyddiau byrrach, nosweithiau tywyllach a thywydd oerach olygu treulio rhagor o amser dan do a llai o gysylltiad ag eraill.

I rywun sy'n galaru, gall hyn weithiau ddwysáu teimladau o dristwch neu unigrwydd. Gall dathliadau tymhorol a thraddodiadau teuluol ddwyn i gof yr un a fu farw, gan wneud i gyfnod a oedd unwaith yn un hapus deimlo'n anodd.

Mae'n bwysig cofio bod y teimladau hyn yn normal. Nid yw galar yn dilyn amserlen; nid oes disgwyliad i chi deimlo mewn ffordd benodol.

Ffyrdd o ofalu amdanoch chi'ch hun

Pan fydd pethau'n teimlo'n anodd, gall camau bach eich helpu i ofalu am eich llesiant emosiynol a chorfforol.

Cadwch mewn cysylltiad: Gall galwad ffôn, ymweliad neu sgwrs gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo eich helpu i deimlo'n llai unig.

Ewch allan i’r awyr agored pan fedrwch chi: Gall hyd yn oed taith gerdded fer yng ngolau dydd godi eich hwyliau a chynnig newid golygfa.

Cynnal trefn ysgafn: Gall gweithgareddau dyddiol syml ddod â pheth strwythur a chysur.

Neulltiwch amser i chi'ch hun: Gadewch i chi'ch hun orffwys, a sylweddoli pryd mae angen diwrnod tawelach arnoch.

Cofiwch yn eich ffordd eich hun: Efallai y cewch gysur wrth edrych ar ffotograffau, rhannu atgofion neu barhau â thraddodiad oedd yn bwysig i chi.

Gofalwch am eich iechyd corfforol:

Yn ystod yr hydref a'r gaeaf, mae'n werth cadw fitamin D mewn cof. Mae'r GIG yn cynnig arweiniad ynghylch fitamin D ac atchwanegiadau:

https://111.wales.nhs.uk/Vitaminsandminerals/?utm_source=chatgpt.com

Y peth pwysicaf yw bod yn garedig wrthych chi eich hun. Bydd rhai diwrnodau'n teimlo'n haws nag eraill, ac mae hynny'n rhan o'r broses alaru.

Cefnogaeth gan Age Cymru Dyfed

Nid oes rhaid i chi wynebu profedigaeth ar eich pen eich hun. Mae ein Tîm Profedigaeth yma i gynnig dealltwriaeth a chefnogaeth i bobl sy'n profi colled.

P'un ai os ydych chi’n canfod y diwrnodau byrrach yn anodd, yn cael trafferth gyda phen-blwydd penodol neu'n syml angen rhywun i siarad â nhw, gall ymestyn allan fod yn gam cyntaf defnyddiol.

Os byddech chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn elwa o gymorth profedigaeth, cysylltwch ag Age Cymru Dyfed i gael gwybod sut y gallwn helpu.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, ac mae cymorth ar gael.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalen bgwasanaethau profedigaeth neu gysylltwch â ni:

Dyfed (Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro)

03333 447874

Powys:

01686 623707