Scipiwch i'r cynnwys

Opsiwn trafnidiaeth newydd, “On the Go”, yn cysylltu cymunedau â Chanolfan Pentre Awel

Cyhoeddwyd ar 11 Tachwedd 2026 08:48 yh

on the go

Gall trigolion ledled Sir Gaerfyrddin elwa bellach ar fynediad gwell i Ganolfan Pentre Awel, gan fod y cyfleuster o’r radd flaenaf hwn wedi’i ychwanegu at y lleoliadau y gellir archebu trafnidiaeth iddynt drwy wasanaeth “Ar y Ffordd”. Mae “Ar y Ffordd” yn bartneriaeth rhwng Age Cymru Dyfed a Dolen Teifi, sy’n cynnig opsiynau teithio sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ar gyfer pobl anabl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Ar y Ffordd wedi ychwanegu Canolfan Pentre Awel at ei ddarpariaeth gwasanaeth, a bydd yn cynnig opsiwn trafnidiaeth arall i'r rhai sy'n dymuno manteisio ar yr ystod eang o gyfleusterau iechyd, llesiant a hamdden sydd ar gael yn yn natblygiad Llanelli. Dywedodd Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae cynnig “Ar y Ffordd” yn atgyfnerthu’r syniad o gysylltedd cymunedol, ac yn helpu i leihau rhwystrau wrth geisio cael mynediad at wasanaethau. Mae’n annog opsiynau trafnidiaeth mwy cynaliadwy sydd hefyd yn golygu y bydd rhagor o bobl yn gallu mwynhau popeth sydd gan Ganolfan Pentre Awel i’w gynnig – o wasanaethau hamdden i apwyntiadau gofal iechyd cymunedol a digwyddiadau cymunedol.

Ar hyn o bryd, mae gan Ar y Ffordd 10 cerbyd wedi'u lleoli mewn gwahanol ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin.

  • Castellnewydd Emlyn - Maes Llywelyn, Lôn yr Eglwys, SA38 9AB
  • Llanelli – Canolfan Pentre Awel, Llanelli, SA15 2EZ
  • Sanclêr – Maes Parcio’r Eglwys, Ger y Llew Gwyn, Pwll Trap, SA33 4AT
  • Caerfyrddin - Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job,  SA31 3HG
  • Llanymddyfri- Canolfan Hamdden, Ffordd Cilycwm, SA20 0DY
  • Llanybydder – Yr Hen Ysgol,  Llanybydder SA409RN
  • Talacharn – Maes Parcio Eglwys St Martins, Talacharn SA334QD
  • Y Tymbl – Maes Parcio Neuadd Bentref y Tymbl, Y Tymbl SA146HR
  • Llandeilo – Cae William, Llandeilo SA19 6HL
  • Porth Tywyn -Plas y Môr – Glanmor Terrace, Porth Tywyn SA16 0NW

Dywedodd Caroline Taylor-Davies, Dirprwy Brif Weithredwr Age Cymru Dyfed: “We are delighted to be adding five more vehicles to the ‘On the Go’ fleet. These additional vehicles will help us to reach more communities and give more people the freedom and confidence to travel. This is an important step in our continued development of the service and reflects the strength of our partnership with Dolen Teifi.”

Ychwanegodd Tom Cowcher, Cadeirydd Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen a Dolen Teifi:

“Mae wedi bod yn bleser mawr gweithio mewn partneriaeth ag Age Cymru Dyfed, deiliad y grant ar gyfer y rhaglen bwysig hon. Mae trafnidiaeth gymunedol yn ymwneud â llawer mwy na chwblhau taith yn unig. Mae’n helpu pobl – yn enwedig y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig – i aros yn annibynnol ac yn gysylltiedig â’u cymunedau. Rydym yn ddiolchgar i Age Cymru Dyfed, ac i’n holl staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid cymunedol sy’n helpu i wneud hyn yn bosibl.”

I archebu eich lle, cysylltwch ag: Ymholiadau Trafnidiaeth Gymunedol drwy ffonio 07399 861341 neu drwy anfon e-bost at communitytransport@agecymrudyfed.org.uk  Gellir paru teithwyr â gyrrwr gwirfoddol lleol, gyda theithiau'n costio 58c y filltir.

Mae Dolen Teifi ar hyn o bryd yn chwilio am wirfoddolwyr yn Llanybydder, Talacharn, Y Tymbl, Llandeilo a Phorth Tywyn. Mae hwn yn gyfle delfrydol i unigolion wneud gwahaniaeth ymarferol i'w cymunedau. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â -training@dolenteifi.org.uk neu ffoniwch 01559 362403.