Scipiwch i'r cynnwys

Lansio Gwasanaeth Cymorth Galar Newydd i Bobl Dros 70 Oed yn Siroedd Dyfed a Phowys

Cyhoeddwyd ar 25 Mehefin 2025 04:13 yh

bereavementpartner logosLansio Gwasanaeth Cymorth Galar Newydd i Bobl Dros 70 Oed yn Siroedd Dyfed a Phowys

Mae gwasanaeth cymorth galar newydd i oedolion hŷn wedi lansio ar draws ardaloedd Dyfed a Phowys. Wedi'i gyflwyno gan Age Cymru Dyfed ac Age Cymru Powys, mae'r gwasanaeth hanfodol newydd hwn wedi bod yn bosibl diolch i gyllid gan Grant Cymorth Galar Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 2025.

Mae'r gwasanaeth yn ddull ymyrraeth gynnar, gyda'r bwriad o leihau rhwystrau i oedolion hŷn o fewn gwasanaethau profedigaeth. Mae'n mynd i'r afael â bylchau critigol mewn cefnogaeth profedigaeth gychwynnol i bobl 70 oed a throsodd - grŵp sy'n arbennig o agored i unigedd ac argyfwng yn dilyn colli anwylyd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig heb fawr o wasanaaethau.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod dros chwarter o anghenion cymorth galar ar gyfer oedolion hŷn yng Nghymru yn mynd heb eu diwallu – mae hyn yn gadael llawer o oedolion hŷn yn teimlo'n amharod ac yn ynysig, gyda nifer yn methu ymdopi. Mae'r gwasanaeth newydd yma’n cynnig mynediad cynnar, tosturiol a chyfartal er mwyn creu llwybrau galar clir a hygyrch i'r grŵp oedran dros 70 oed yn Nyfed a Phowys.

Drwy wneud i bob cyswllt gyfrif – bydd cymorth ymarferol ar gael, wyneb yn wyneb ac o bell, a fydd yn helpu i feithrin cadernid, lleihau unigedd, a lleihau pwysau ar systemau iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd y gwasanaeth hefyd yn cyfrannu at sylfaen dystiolaeth gynyddol i helpu i lunio gwasanaethau profedigaeth yn y dyfodol ledled Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn:

 

Dyfed (Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro)

03333 447874

Reception@agecymrudyfed.org.uk

www.ageuk.org.uk/cymru/dyfed/

Powys:

01686623707

enquiries@acpowys.org.uk
www.ageuk.org.uk/cymru/powys/