Scipiwch i'r cynnwys

Yr hyn a wnaethon ni helpu Dyfed i garu bywyd yn hwyrach yn 2025

Cyhoeddwyd ar 08 Ionawr 2026 09:37 yh

Yr hyn a wnaethon ni helpu Dyfed i garu bywyd yn hwyrach yn 2025

Wrth i ni edrych yn ôl ar 2025, mae Age Cymru Dyfed yn myfyrio ar flwyddyn a ddiffiniwyd gan ofal, cysylltiad, a gweithredu cymunedol. Ar draws gorllewin Cymru, mae llawer o bobl dros hanner cant yn wynebu heriau a all wneud bywyd yn hwyrach yn anoddach nag y dylai fod. Mae hyn yn cynnwys unigrwydd, profedigaeth, pwysau ariannol, trafnidiaeth gyfyngedig, ac iechyd sy'n dirywio. Drwy gydol 2025, canolbwyntiodd ein gwaith ar oresgyn yr heriau hynny gyda chefnogaeth ymarferol a chysylltiad dynol gwirioneddol. Fe wnaeth ein gwaith wnaeth helpu unigolion nid yn unig i ymdopi, ond i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u bod yn rhan o'u cymuned.

Cyrhaeddodd ein gwasanaethau, wedi'u pweru gan ein tîm anhygoel o staff, gwirfoddolwyr, partneriaid ac ymddiriedolwyr, unigolion ar adegau o ansicrwydd a newid. Fe wnaethant gynnig sicrwydd, cyngor a chwmni pan oedd fwyaf o bwys iddyn nhw. Gwnaed y gwaith hwn yn bosibl oherwydd ymroddiad staff, haelioni cefnogwyr ac ymrwymiad rhyfeddol gwirfoddolwyr a roddodd o’u hamser, eu sgiliau a'u tosturi i helpu eraill i fyw bywyd hwyrach yn well. Chwaraeodd partneriaethau cryf â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cynghorau Sir a Llywodraeth Cymru rôl hanfodol hefyd, a’n helpu i roi cymorth cydgysylltiedig a chyrraedd pobl yn brydlon gyda'r cymorth cywir.

Creu rhagor o gymorth a chefnogaeth drwy gydol y flwyddyn

Gan ymateb i angen cynyddol, gwelodd 2025 Age Cymru Dyfed yn ehangu ei gefnogaeth trwy sawl gwasanaeth newydd pwysig. Gostyngwyd rhwystrau i annibyniaeth ymhellach trwy lansio cynllun trafnidiaeth gymunedol "Ar Y Ffordd - On The Go", mewn partneriaeth â Dolen Teifi. Mae’r gwasanaeth hwn yn cefnogi pobl sy'n cael trafferth mynd allan oherwydd trafnidiaeth gyfyngedig neu anhygyrch. Ochr yn ochr â hyn, fe wnaeth ein gwasanaeth cefnogaeth llesiant ariannol helpu pobl hŷn a gofalwyr di-dâl yn mynd i'r afael â heriau ariannol, mynediad at hawliau a lleihau pryderon ariannol ar adeg pan oedd llawer yn teimlo straen costau byw cynyddol.

Cyflwynwyd ein rhaglen wirfoddolwyr Calon y Gymuned i helpu adeiladu cysylltiadau cymdogaeth cryfach, gyda gwirfoddolwyr hyfforddedig yn cynnig cyswllt cyfeillgar a sicrwydd i bobl sy'n profi unigedd. Hefyd, gwasanaeth grant cymorth tai yng Ngheredigion a grantiau cymorth gofalwyr di-dâl eraill. Fe wnaethom hefyd lansio gwasanaeth pobl hŷn yn Sir Benfro, cryfhau cefnogaeth leol a sicrhau y gallai trigolion hŷn gael mynediad at gyngor, gweithgareddau a chymorth ymarferol yn agosach at adref. Cyflwynwyd gwasanaeth galar hefyd yn 2025, i roi cefnogaeth dosturiol ac arbenigol i bobl sy'n profi colled, a chynnig lle diogel i siarad, cael eu clywed a dechrau ailadeiladu ar ôl galar.

Parhaodd cefnogi cyn-filwyr hŷn yn ffocws allweddol yn 2025, gyda lansiad ein Rhaglen e-ddysgu Adeiladu Dyfodol Cryfach i Gyn-filwyr Hŷn. Ochr yn ochr â hyn, cynhaliodd Age Cymru Dyfed ddigwyddiadau, gwaith partneriaeth ac ymgysylltiad cenedlaethol, a oedd yn cynnwys rhannu lleisiau cyn-filwyr yn y Senedd ac yn San Steffan, a helpu i godi ymwybyddiaeth a sicrhau bod anghenion cyn-filwyr hŷn yng ngorllewin Cymru yn cael eu cydnabod a'u cefnogi'n well.

Adeiladu ar wasanaethau dibynadwy, sefydledig

Ochr yn ochr â datblygiadau newydd, parhaodd ein gwasanaethau hirhoedlog i roi cefnogaeth hanfodol, o ddydd i ddydd. Mae Cysylltu Sir Gâr yn parhau i fod yn bwynt cyswllt hanfodol, ac yn cynnig sesiynau galw heibio cymunedol, cefnogaeth allgymorth a chymorth personol. Dros y flwyddyn, mae ein tîm gwybodaeth a chyngor Cysylltu Sir Gâr wedi ymwneud â 1,378 o atgyfeiriadau, gyda 238 o bobl yn derbyn cefnogaeth un i un bwrpasol gan swyddogion llesiant. Helpodd y dull wedi'i deilwra hwn, unigolion i gyflawni canlyniadau ystyrlon ac, mewn llawer o achosion, ataliodd yr angen am ymyrraeth statudol bellach.

Yn 2025, aeth ein Gwasanaeth Cysylltwyr Llesiant Dementia o nerth i nerth hefyd. Siaradodd ein tîm o gysylltwyr yn agored am y gwasanaeth ym mlog mis Gorffennaf – Cwrdd â’n Cysylltwyr Llesiant Dementia Rhanbarthol. Trwy ein Befriending Life Links parhaodd grwpiau cymdeithasol i chwarae rhan bwerus wrth fynd i'r afael ag unigrwydd ac ailadeiladu hyder. Fe wnaeth grwpiau fel Green Escapes, Brew Buddies, Crafty Days, Shake Rattle and Stroll, Move and Groove, a Pride in Age, ddod â phobl ynghyd trwy ddiddordebau cyffredin, chwerthin a chyfeillgarwch. I nifer, daeth y grwpiau hyn yn achubiaeth, a chynnig trefn, perthyn a llawenydd. Mae rhagor o wybodaeth am y rhestrau cyfredol ar ein tudalen Gweithgareddau a Digwyddiadau.

Parhaodd cynhwysiant digidol yn ffocws allweddol, gyda phobl hŷn yn cael eu cefnogi i feithrin hyder gan ddefnyddio technoleg i aros mewn cysylltiad. Cawsant mynediad at wasanaethau hanfodol gyda chymorth ein prosiect digidol newydd wedi'i ariannu gan Moondance a lansiwyd yn gynnar yn 2025. Galluogodd cymorth ymarferol drwy wasanaethau 'cymorth cartref' a 'thorri ewinedd traed' lawer o bobl i aros yn ddiogel, yn gyfforddus ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am hirach. Mae gwaith parhaus y rhai sydd wedi ennill gwobrau Byw Adref a Gwasanaethau Torri Ewinedd Traed hefyd wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Wedi’u pweru gan bobl

Y tu ôl i bob gwasanaeth mae cymuned o bobl sy'n dewis cymryd rhan. Yn 2025, roedd ein gwirfoddolwyr wrth wraidd ein gwaith, ac yn cynnig cyfeillgarwch, cymorth ymarferol a sicrwydd i bobl hŷn ar draws Dyfed. O gefnogi grwpiau cymdeithasol a sesiynau digidol i groesawu pobl mewn sesiynau galw heibio neu fod yno i wrando, mae gwirfoddolwyr wedi helpu i droi gwasanaethau yn berthnasoedd.

Mae straeon fel Rose y Wirfoddolwraig yn dal ysbryd gwirfoddoli yn Age Cymru Dyfed. Drwy roi ei hamser, helpodd Rose eraill i deimlo'n llai unig, a daeth o hyd i gysylltiad a phwrpas ei hun. Mae ei phrofiad yn adlewyrchu profiad llawer o wirfoddolwyr sy'n disgrifio gwirfoddoli fel taith ddwyffordd, un sy'n meithrin hyder, cyfeillgarwch a chymunedau cryfach.

Fe wnaeth codwyr arian a rhoddwyr hefyd chwarae rôl hanfodol, a chefnogi apeliadau, digwyddiadau a heriau a helpodd i gadw ein gwasanaethau am ddim, yn lleol ac yn hygyrch. Yn 2026 byddwn yn parhau i adeiladu ar y maes gwaith hwn gyda staff, gwirfoddolwyr, sefydliadau ac aelodau'r gymuned. Fe wnaethom hefyd sefydlu tudalen rhoddion fel y gall pobl rhoi’n fisol drwy daliadau tanysgrifio. Yn ogystal â hyn, taliadau untro ac ymgyrch Big Step 2026 Just Giving sy’n lansio cyn hir.

Diolch i'r haelioni cyfunol hwn, y llynedd fe wnaeth Age Cymru Dyfed gefnogi 365 o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Rhoddodd gefnogaeth iechyd meddwl i 560 o bobl, cysylltodd 292 o bobl hŷn trwy grwpiau cyfeillio a chymdeithasol a helpodd 463 o bobl i ddatblygu sgiliau digidol. Rhoddodd wybodaeth a chyngor i 2,684 o bobl, a datgloi £2.3 miliwn mewn budd-daliadau llesiant nas hawliwyd o'r blaen. Y tu ôl i bob un o'r ffigurau hyn mae person go iawn, yn byw yng ngorllewin Cymru, yn wynebu'r heriau i garu bywyd yn Nyfed fel person hŷn.

Edrych ymlaen

Wrth edrych yn ôl ar 2025, cawn ein hatgoffa na ddylai heneiddio'n dda byth fod yn rhywbeth y mae pobl yn ei wynebu ar eu pen eu hunain. Gyda chefnogaeth barhaus gwirfoddolwyr, codwyr arian a rhoddwyr, bydd Age Cymru Dyfed yn parhau i ymateb i angen, cryfhau cymunedau, a sicrhau bod bywyd yn hwyrach ar draws gorllewin Cymru yn cael ei fyw gydag urddas, cysylltiad a gobaith. Wrth i ni symud ymlaen, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i helpu Dyfed i garu bywyd yn hwyrach gyda'n gilydd.

Cysylltwch â Ni

Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr, rhoddwyr, codwyr arian ac ymddiriedolwyr newydd. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni! Am  ymholiadau, anfonwch e-bost atom: reception@agecymrudyfed.org.uk