Ar y Ffordd – Trafnidiaeth Gymunedol yn Gwneud Gwahaniaeth Ar Draws Sir Gâr
Cyhoeddwyd ar 19 Awst 2026 11:51 yb

Mae ein gwasanaeth trafnidiaeth cymunedol Ar y Ffordd / On the Go, a gyflwynir mewn partneriaeth ag Age Cymru Dyfed a Dolen Teifi, yn parhau i dyfu, ac yn helpu mwy o bobl sy'n byw ag anableddau ledled Sir Gâr i gael mynediad at wasanaethau, gweithgareddau a chyfleoedd hanfodol a allai fod yn anodd neu'n amhosibl eu cyrraedd fel arall.
Wedi'i ariannu o fis Mehefin 2025 am dair blynedd gychwynnol, mae'r gwasanaeth yn darparu opsiwn trafnidiaeth gymunedol i bobl sy'n byw ag anableddau ledled Sir Gâr, gan gynnwys cerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn. Ar ddiwedd y cyfnod ariannu tair blynedd, bydd y cerbydau'n dod yn asedau cymunedol, ac yn darparu budd parhaol i gymunedau lleol.
Ein mis prysuraf eto
Gorffennaf 2026 oedd ein mis prysuraf o ran teithio ers i'r gwasanaeth ddechrau, gyda bron i 2,000 o filltiroedd wedi'u teithio ar draws 68 o archebion. Dyma hefyd ein mis mwyaf hyd yn hyn o ran nifer y teithwyr. Mae cynnydd mewn archebion o gartrefi gofal, ochr yn ochr â mwy o ddefnydd o'r opsiwn hunan-yrru, wedi galluogi rhagor o bobl i deithio gyda'i gilydd a chael rhagor o fudd o bob taith.
Y tu ôl i'r ffigurau hyn mae unigolion go iawn, y gall gallu cyrraedd llefydd y maen nhw eu hangen a'u heisiau mynd, boed yn mynd i apwyntiad, yn cymryd rhan mewn gweithgarwch cymdeithasol, yn ymweld ymhellach i ffwrdd neu'n syml yn cael y cyfle i fynd allan ac ailgysylltu â'u cymuned leol, wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Cymunedau gwahanol, anghenion gwahanol
Un o gryfderau Ar y Ffordd yw hyblygrwydd y gwasanaeth. Mae cerbydau sydd wedi'u lleoli yn nhrefi mwy Llanelli a Chaerfyrddin yn gyffredinol yn darparu teithiau byrrach a mwy aml. Yn y cyfamser, mae cerbydau sy'n gwasanaethu rhannau eraill o'r sir yn helpu pobl yn rheolaidd i deithio'n bellach a chael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau allweddol nad ydynt efallai ar gael yn lleol. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn cymunedau gwledig, lle gall opsiynau trafnidiaeth cyfyngedig greu rhwystr sylweddol i annibyniaeth a chyfranogiad ym mywyd cymunedol i bobl sy'n byw ag anableddau.
Rydym hefyd yn gweld cartrefi gofal a phreswyl yn gwneud defnydd arloesol o'r gwasanaeth. Yng Nghastellnewydd Emlyn a Llanymddyfri, mae staff cartrefi gofal wedi cael eu hyfforddi i yrru'r cerbydau eu hunain. Mae hyn yn galluogi preswylwyr i elwa o deithiau a gweithgareddau heb fod angen gyrrwr allanol bob amser. Mae'r dull hunan-yrru hwn yn rhoi rhagor o hyblygrwydd i sefydliadau ac yn helpu i sicrhau bod cerbydau'n cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl er budd pobl leol.
Datblygu’r gwasanaeth
Rydym wrth ein bodd y bydd pum cerbyd arall yn ymuno â fflyd Ar y Ffordd cyn hir. Bydd yr adnodd ychwanegol hwn yn cynyddu capasiti'r gwasanaeth yn sylweddol ac yn darparu rhagor o gyfleoedd i bobl a sefydliadau ledled Sir Gâr gael mynediad at drafnidiaeth gymunedol hyblyg a hygyrch.
Wrth i gerbydau ychwanegol ymuno â ni, byddwn yn parhau i edrych yn ofalus ar ble mae'r angen mwyaf a sut y gall y fflyd estynedig ategu'r gwasanaeth presennol. Bydd y profiad a gafwyd o'n cerbydau cyntaf, gan gynnwys y gwahanol batrymau defnyddio a welwn mewn trefi mwy a chymunedau mwy gwledig, yn ein helpu i wneud y defnydd gorau posibl o'r capasiti ychwanegol hwn.
Mwy na mynd o A i B
I lawer o bobl sy'n byw ag anableddau, mae trafnidiaeth hygyrch yn llawer mwy na chwblhau taith. Gall methu â theithio gyfrannu at unigrwydd ac i bobl deimo’n ynysig, a’i gwneud hi'n anoddach mynd i apwyntiadau ac atal pobl rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cefnogi eu llesiant. Nod ar y Ffordd yw cael gwared ar rai o'r rhwystrau hyn.
Mae twf parhaus mewn archebion, niferoedd y teithwyr a milltiroedd yn dangos y galw am drafnidiaeth gymunedol hyblyg a hygyrch ledled Sir Gâr. Yr un mor bwysig, mae'n dangos sut y gall gwasanaethau addasu i wahanol anghenion cymunedau trefol a gwledig.
Mae'r bartneriaeth hon rhwng Age Cymru Dyfed a Dolen Teifi yn dwyn ynghyd wybodaeth leol, cysylltiadau cymunedol ac arbenigedd trafnidiaeth, ac yn ein galluogi i ddatblygu gwasanaeth sy'n ymateb i'r hyn y mae cymunedau'n dweud wrthym eu bod ei angen.
Gyda phum cerbyd ychwanegol ar gael cyn hir, mae hwn yn gam cyffrous i Ar y Ffordd. Byddwn yn parhau i fonitro sut mae cerbydau'n cael eu defnyddio, yn gwrando ar deithwyr a chymunedau, ac yn chwilio am gyfleoedd i helpu hyd yn oed rhagor o bobl sy'n byw ag anableddau i aros yn gysylltiedig, yn annibynnol ac yn rhan o fywyd cymunedol.
Oherwydd weithiau gall cael y cludiant cywir ar gael wneud y gwahaniaeth rhwng methu â chymryd rhan a gallu mynd allan, cysylltu a byw'n dda.
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i’n tudalen Ar y Ffordd a/neu gysylltwch â ni ar e-bost neu dros y ffôn.