Scipiwch i'r cynnwys

Wythnos Gweithredu ar Ddementia

Cyhoeddwyd ar 16 Mai 2026 04:57 yh

Dementia Action Week

Mae hi'n #WythnosGweithreduArDdementia o 18-24 Mai. O 18–24 Mai, mae Age Cymru Dyfed yn cefnogi #WythnosGweithreduArDdementia drwy helpu i godi ymwybyddiaeth o ddementia a sicrhau y gall pobl ledled Dyfed gael mynediad at gyngor, gwybodaeth a chymorth lleol. Drwy gydol yr wythnos, bydd ein Cysylltwyr Llesiant Dementia yn cynnal nifer o sesiynau galw heibio ledled Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr.

Mae'r sesiynau hyn ar agor i rheiny sy'n byw â dementia, yn gofalu am rywun â dementia, neu'n pryderu am golli cof neu newidiadau mewn ymddygiad. Ochr yn ochr â'r digwyddiadau, rydym hefyd yn rhannu gwybodaeth i helpu pobl i weld rhai o arwyddion cyffredin dementia ac annog sgyrsiau cynnar gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol lle bo angen.

Digwyddiadau galw heibio:

Dewch o hyd i fanylion am ein sesiynau galw heibio gyda’n Cysylltydd Llesiant Dementia ar draws y tair sir. Gallwch hefyd ddefnyddio'r daflen hon isod i weld arwyddion o Ddementia.

Ceredigion:
✔️18.05.26 – Canolfan Gofal Integredig Aberteifi

Sir Benfro:

✔️19.05.26 Archifau Sir Benfro

Ceredigion:

✔️19.05.26 – Galw Heibio yn Swyddfa ACD Aberystwyth

✔️21.05.26 Canolfan Byw’n Annibynnol Aberaeron

Sir Gâr:

✔️19.05.26 – Hwb Caerfyrddin
✔️20.05.26 - Parc Dewi Sant
✔️21.05.26 – Hwb Llanelli
✔️21.05.26 - Pentre Awel Llanelli
✔️29.05.26 - Y Gat, Sant Clêr

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch Emma Gerbino

📧Emma.gerbino@agecymrudyfed.org.uk
📱07399861386

Adnabod arwyddion o ddementia - rhestr wirio:

Gall y rhestr wirio hon eich helpu i gael sgwrs gyda meddyg/gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Defnyddiwch hi i nodi'r anawsterau rydych chi wedi'u cael. Nid yw wedi'i bwriadu i wneud diagnosis o ddementia na chyflyrau iechyd eraill. Mae pawb yn profi dementia yn eu ffordd eu hunain. Mae'r rhestr wirio hon yn cynnwys arwyddion cyffredin o ddementia, ond gall fod rhesymau eraill dros newidiadau. Siaradwch â'ch meddyg am y pryderon a nodir yma.

Problemau cof a gallu meddyliol 

  • anghofio gwybodaeth neu anghofio digwyddiadau diweddar neu enwau pobl
  • Cael trafferth dod o hyd i'r gair cywir
  • Anhawster barnu pellteroedd/camgymryd adlewyrchiadau/patrymau am wrthrychau
  • Cael trafferth gwneud penderfyniadau, neu wneud penderfyniadau diofal neu beryglus
  • Colli trywydd amser a dyddiadau
  • Gofyn yr un cwestiwn dro ar ôl tro, neu ailadrodd ymadroddion
  • Rhoi gwrthrychau mewn mannau anarferol

Problemau gyda gweithgareddau bywyd bob dydd 

  • Cael trafferth gyda thasgau fel talu biliau, cynllunio ymlaen llaw, siopa
  • Anhawster cael digon o gwsg
  • Mynd ar goll mewn mannau cyfarwydd

Problemau hwyliau ac ymddygiad 

  • Mynd yn ofidus, yn bigog, neu'n ymosodol yn hawdd
  • Symptomau iselder, fel teimlo'n drist neu'n anobeithiol
  • Symptomau o orbryder, fel teimlo'n bryderus iawn neu'n anesmwyth
  • Tynnu'n ôl neu golli diddordeb mewn pethau roeddwn i'n eu mwynhau o'r blaen
  • Ymddwyn yn amhriodol neu allan o gymeriad
  • Teimlo'n aflonydd ac yn cerdded o gwmpas