Scipiwch i'r cynnwys

Diolch am ymweld â ni yn Sioe Sir Benfro!

Cyhoeddwyd ar 12 Medi 2026 12:44 yh

Pembrokeshire Show

Cawsom ddeuddydd gwych yn cwrdd ag ymwelwyr yn y Parth Cymunedol ar y Brif Rodfa a rhannu rhagor am y gefnogaeth a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu ar gyfer pobl hŷn ar draws Sir Benfro.

Braf iawn oedd sgwrsio â chymaint o bobl a wnaeth alw heibio ein stondin i ddweud hylo, cwrdd â’r tîm a dysgu rhagor am ein gwaith.

Roeddem hefyd yn falch o rannu gwybodaeth gan ein Cysylltwyr Dementia – rhan o Wasanaeth Llesiant Dementia Hywel Dda – sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth ynghylch byw’n dda gyda dementia.

Diolch mawr iawn i bawb a ymwelodd â ni, a sgwrsiodd â ni ac a’n helpodd i ledaenu’r gair am y gwaith rydym yn ei wneud. Fe wnaethom fwynhau cwrdd â chi yn fawr, a gobeithiwn eich bod chi wedi mwynhau’r sioe gymaint â ni!

Age Cymru Dyfed, yn helpu pobl yn Nyfed i garu bywyd yn y blynyddoedd hwyrach.