Scipiwch i'r cynnwys

Digwyddiad Gofalwyr yn Theatr Botanica!

Cyhoeddwyd ar 12 Ionawr 2024 06:17 yh

Digwyddiad Gofalwyr yn Theatr Botanica!

Digwyddiad sirol Fforwm Gofalwyr Sir Gaerfyrddin - "Cadw'n Gynnes, Cadw'n Iach ac Arbed Ynni" yn Theatr Botanica, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, 25 Ionawr 2024

Bydd Age Cymru Dyfed yn nigwyddiad sirol Fforwm Gofalwyr, a gynhelir ar 25 Ionawr, rhwng 10am a 3pm.

Ein thema ar gyfer y digwyddiad yw Cadw’n Gynnes, Cadw’n Iach ac Arbed Ynni a byddwn yn darparu pecynnau cynnes i bawb sy’n bresennol (gwerth £25) o gyllid a ddarparwyd gan Gronfa Dosbarthu Trydan a Materion Cymunedol y Grid Cenedlaethol.

Yr agenda:

  • 10am Lluniaeth
  • 10.30am Cyflwyniad ac ymarferion cadw'n gynnes a ddarperir gan y GIG
  • ​11.30am Amser anffurfiol i ofalwyr sgwrsio â gofalwyr eraill ac ymweld â stondinau gwybodaeth.
  • 12.30 Cinio math bwffe
  • 1.30 Siaradwr Gwadd - Joanna Jones Pennaeth Gwasanaethau Integredig Dros Dro gan gynnwys sesiwn holi ac ateb.
  • 2.30 Raffl a Chau

Ymhlith y sefydliadau sy'n mynychu mae Age Cymru Dyfed, Adferiad Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Sir Gaerfyrddin, Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin, Cymorth i Ofalwyr Gorllewin Cymru, The Hiv , Llais Cymru, GIG, Threshold DAS.

I'r rheiny sy'n mynychu ein digwyddiad, edrychwn ymlaen at eich gweld ar y diwrnod!

Mae mynediad anabl i'r digwyddiad yn Theatr Botanica. Mae yna barcio am ddim ac mae mynediad i'r mynychwyr i'r mannau cynadledda trwy'r fynedfa fasnach (nid y brif fynedfa, ond wedi'i lleoli o amgylch cefn y gerddi).

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch reception@agecymrudyfed.org.uk.