Age Cymru Dyfed yn Cefnogi Ymweliad â Chyn-filwr 101 oed o'r Ail Ryfel Byd
Cyhoeddwyd ar 09 Awst 2026 06:24 yh

Cafodd Tîm Cyn-filwyr Age Cymru Dyfed yr anrhydedd o helpu i hwyluso ymweliad arbennig â Bruce McCay, cyn-filwr o Gymru yn yr Ail Ryfel Byd, a wnaeth ddathlu ei ben-blwydd yn 101 oed yn ddiweddar.
Ddydd Mawrth 21 Gorffennaf 2026, croesawodd Neil Davies, Swyddog Cyn-filwyr, gynrychiolwyr o sefydliad treftadaeth cyn-filwyr y DU The Last of The Greats i gartref Bruce, lle bu’n rhannu atgofion o’i wasanaeth gyda’r 7fed Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Fel rhan o'r ymweliad, Bruce oedd y 58fed cyn-filwr i arwyddo Baner Undeb yr Ail Ryfel Byd The Last of The Greats, gan ychwanegu "7 RWF" yn falch ochr yn ochr â'i lofnod fel teyrnged i'w gatrawd.
Yn dilyn yr ymweliad, cysylltodd Di Hendrick, partner Bruce, ag Age Cymru Dyfed i fynegi ei diolch. Dywedodd bod yr ymweliad wedi "gwneud hen ddyn yn hapus iawn".
Meddai Neil Davies:
"Roedd neges Di yn ategiad hyfryd, ac rwy'n falch iawn bod Age Cymru Dyfed yn gallu cefnogi ein cyn-filwyr Lluoedd Arfog. Cafodd Bruce ei anafu mewn brwydr, a rhaid i ni beidio ag anghofio'r pris a dalodd dynion fel Bruce am y rhyddid rydyn ni'n ei fwynhau heddiw."
Mae stori Bruce wedi'i chadw fel rhan o'r Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru ar Gasgliad y Werin Cymru, ac yn sicrhau y bydd ei brofiadau’n parhau i addysgu ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Yn Age Cymru Dyfed, rydym yn falch o gefnogi cyn-filwyr ledled Gorllewin Cymru ac i helpu i gadw straeon y rhai a wasanaethodd.