Scipiwch i'r cynnwys

Nadolig, Y Diwrnod Mwyaf Unig

Cyhoeddwyd ar 08 Rhagfyr 2023 06:35 yh

Ted

Mae unigrwydd adeg y Nadolig yn gyffredin ymhlith miloedd o bobl hŷn yng Nghymru

Dydd Nadolig yw diwrnod anoddaf y flwyddyn i nifer o bobl hŷn

Mae ymchwil newydd a ariennir gan Age Cymru yn amlygu pa mor unig ac ynysig yw bywyd beunyddiol i filoedd o bobl hŷn ar draws Cymru, yn enwedig yn ystod cyfnod yr ŵyl. Yn ôl yr ymchwil mae bron i 85,000 o bobl 65 oed neu drosodd yng Nghymru yn dweud y byddan nhw'n bwyta cinio Nadolig heb gwmni eleni.

Dywedodd mwy na 112,000 o bobl hŷn, sy’n cyfateb i fwy nag un o bob chwech, wrth y Bartneriaeth mai Dydd Nadolig yw eu diwrnod anoddaf o’r flwyddyn, a dywedodd bron i un o bob pump eu bod yn dymuno cael rhywun i dreulio amser gyda nhw dros y Nadolig. I lawer o bobl hŷn, gall bod ar eu pen eu hunain adeg y Nadolig fod o ganlyniad i farwolaeth eu hanwyliaid, efallai eu bod wedi dod yn gaeth i’r tŷ oherwydd afiechyd, neu fod eu teulu a’u ffrindiau wedi symud ymhellach i ffwrdd.

O arolwg arall clywsom hefyd am effaith y pandemig ar unigrwydd gan fod rhai pobl yn ymddangos yn llai tueddol o gymdeithasu. Dywedodd un ymatebydd wrthym “Y mater mwyaf arwyddocaol yw unigrwydd ac arwahanrwydd yn dilyn Covid. Mae perthnasoedd wedi newid. Mae’n ymddangos bod pobl yn llai parod i ryngweithio.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Age Cymru Dyfed, Simon Wright,

“Mae Age Cymru Dyfed yn gweithio’n galed i helpu i leddfu unigrwydd drwy gydol y flwyddyn yng ngorllewin Cymru. Mae ein cymorth yn darparu cyngor, cyfeillio, sgiliau digidol a gwasanaethau cymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion."

“Y llynedd defnyddiodd Age Cymru Dyfed ei arian i helpu pobl mewn amryw ffyrdd. Derbyniodd 1,761 dros 50 oed wybodaeth a chyngor, cafodd 200 fudd o gymorth iechyd meddwl, cafodd 636 o Gysylltiadau Bywyd Cyfeillio dros 50 oed eu helpu yn 2022 a chefnogwyd 600+ ar eu technoleg.

“Y llynedd, fe wnaethon ni helpu Dyfed i garu bywyd yn hwyrach mewn gymaint o wahahnol ffyrddl! O gyfeillio a chynhwysiant digidol i gymorth iechyd meddwl a gwybodaeth a chyngor, ynghyd â £2.3m a ddyfarnwyd mewn budd-daliadau llesiant nas hawliwyd yn flaenorol! Mae Age Cymru Dyfed yn cael cyllid statudol cyfyngedig. Credwn ei bod yn hanfodol bod ein gwasanaeth ar gael i bawb sydd ei angen a'i fod yn cynnig cyngor arbenigol cyfrinachol ac am ddim ac ymweliadau cartref i bobl â phroblemau symudedd. Mae rhoddion yn sicrhau ein bod yn cyflawni gwaith yn lleol."

I roi i Age Cymru Dyfed | Donate neu anfonwch e-bost atom yn reception@agecymrudyfed.org,uk i drefnu’r ffordd orau o dalu.