Apel bocs rhoddion
Cyhoeddwyd ar 25 Hydref 2022 08:22 yb
Rydym wrth ein bodd bod ein Apêl Bocs Rhoddion yn ôl yn 2025
🎁Apêl anrhegion Nadolig 🎁
Helpwch ni i ledaenu ychydig o lawenydd y Nadolig! 💫
Rydyn ni’n casglu anrhegion i bobl hŷn sy’n teimlo’n unig dros yr ŵyl.
Byddwn ni’n pacio ac yn dosbarthu’r rhoddion gyda gofal – dim ond eich caredigrwydd sydd ei angen! 💝
Sut y gallwch chi helpu
- Dewch a unrhyw anrheg atom - dim rhaid ei lapio - gweler ein hawgrymiadau isod (nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr)
- Syniadau rhoddion :hosanau cynnes, sgarffiau, nwyddau ymolchi, danteithion neu gerdyn Nadolig llawen.
- Mae gennym awgrymiadau ar yr hyn y gallwch ei gynnwys yn eich blwch esgidiau ar wefan Age Cymru - http://bit.ly/GiftBoxAppeal
Mae ein pwyntiau gollwng fel a ganlyn: -
Age Cymru Gwynedd a Mon, Y Cartref, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd LL54 7UW
(Dydd Llun - Dydd Gwener 9:00yb -3yp)
Gadewch i ni sicrhau bod pawb yn teimlo’n cael eu cofio’r Nadolig hwn. ❤️