Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Polisi Preifatrwydd

 Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i Age Cymru Gwynedd a Môn a’i elfen fasnachol ac hefyd cwmniau cysylltiedig eraill lle bo hynny'n berthnasol (gyda'i gilydd "Grŵp Age Cymru Gwynedd a Môn").

Mae Grŵp Age Cymru Gwynedd a Môn wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu'ch preifatrwydd a'ch diogelwch.   Pryd bynnag y byddwch chi'n rhoi eich gwybodaeth bersonol i ni trwy ein Safle(oedd) gwefan,  systemau papur a’r system basdata rheoli achosion sydd yn system ar-lein ar sail cwmwl, ac sydd yn cydymffurfio â GDPR, byddwn yn trin y wybodaeth honno yn unol â'r polisi hwn, ein telerau ac amodau ac y deddfwriaeth gyfredol Diogelu Data yn y DU sef GDPR.  Drwy gytuno i’r y polisi hwn ar y ffurflen ganiatâd, rydych chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan y polisi hwn.

Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein safbwyntiau ac arferion ynglŷn â'ch data personol a sut y byddwn yn ei drin.

Gallasai’r polisi hwn newid o bryd i'w gilydd, felly edrychwch ar ein gwefan o bryd i'w gilydd ar gyfer unrhyw ddiweddariadau, gallwch hefyd gysylltu a gofyn am gael copi os yw'r polisi wedi newid ar 01286 677 711.

Mae Age Cymru Gwynedd a Môn yn elusen gofrestredig 1143587 a chwmni cyfyngedig trwy warant 07621068.  Y cyfeiriad cofrestredig yw Y Cartref, Bontnewydd, Caernarfon, LL54 7UW.

 

Diogelu Data

Hoffai Grŵp Age Cymru Gwynedd a Môn gadw mewn cysylltiad â chi er mwyn eich hysbysu am y  gwaith hanfodol a wnawn i bobl hŷn, ein cynnyrch a'n gwasanaethau.  Drwy gyflwyno eich         e-bost, cyfeiriad a rhif(au) ffôn ar ein gwefan, e-bost neu ar lafar, rydych chi'n cytuno i gael cyswllt drwy’r cyfryngau yma gan Age Cymru Gwynedd a Môn a'i grŵp o gwmnïau. Gallwch ddad-danysgrifio o'r cyfathrebiadau hyn ar unrhyw adeg.

Os nad ydych am barhau i dderbyn gwybodaeth gennym ni neu gan drydydd parti a ddewiswyd yn ofalus, yna e-bostiwch ni at info@acgm.co.uk neu ffoniwch ni ar 01286 677 711.

O bryd i’w gilydd, gallaswn rannu eich data gyda sefydliadau eraill yr ydym yn gweithio gyda nhw.  Byddwn yn eich hysbysu (cyn casglu'ch data) os ydym yn bwriadu rhannu'ch data gydag unrhyw drydydd parti.  Gallwch weithredu eich hawl i atal prosesu o'r fath trwy dicio (neu beidio â thicio lle bo'n berthnasol) blychau penodol ar y ffurflenni a ddefnyddiwn i gasglu'ch data. Gallwch hefyd ymarfer eich hawl i ofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data fel hyn ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni yn info@acgm.co.uk neu drwy'r post i Y Cartref, Bontnewydd, Caernarfon, LL54 7UW.

Mae Age Cymru Gwynedd a Môn a nifer o'i gwmnïau masnachu a chwmnïau cysylltiedig wedi'u cofrestru fel Rheolwr Data gyda'r Comisiynydd Gwybodaeth. Age Cymru Gwynedd a Môn yw'r Rheolydd Data at ddibenion casglu'ch gwybodaeth ar ein Safle(oedd), ffeiliau papur a system bas-data rheoli achosion sydd yn system ar-lein ar sail cwmwl, ac sydd yn cydymffurfio â GDPR.

1. Pa wybodaeth bersonol a gesglir gennych.

Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol amrywiol a all gynnwys eich enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, cyfeiriad IP, dyddiad geni, perthynas agosaf, manylion eich swyddogion proffesiynol fel meddyg neu weithiwr cymdeithasol.  Ar rai achlysuron o bosib y bydd angen mwy o wybodaeth arnom fel rhif Yswiriant Gwladol, hanes meddygol a meddyginiaeth,, gwybodaeth ariannol megis pa fudd-daliadau rydych yn derbyn a lefel eich  cynilion.

Byddwn ond yn casglu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer pob achos unigol.

2. Sut y defnyddir eich gwybodaeth

Gallaswn fod yn defnyddio'r wybodaeth  yn y ffyrdd canlynol:

  • • cyflawni ein rhwymedigaethau sy'n deillio o unrhyw gytundeb a lunnir rhyngoch chi a ni;
  • • gofyn am eich barn neu'ch sylwadau ar y gwasanaethau a ddarparwn;
  • • gwella ein gwasanaethau neu ddibenion marchnata;
  • • anfon atoch gyfathrebiadau yr ydych wedi gofyn amdanynt ac o bosib fydd o ddiddordeb i chi.  Gallai'r rhain gynnwys gwybodaeth am ymgyrchoedd, apeliadau, gweithgareddau codi arian eraill, hyrwyddo cynnyrch y cwmnïau sydd yn gysylltiedig gyda ni.
  • • cysylltu gyda thrydydd partïon  megis Adran Gwaith a Phensiynau, meddygon, sefydliadau eraill, teulu neu ffrindiau, perthynas agosaf, ac unrhyw wasanaethau perthnasol eraill y gofynnwch amdanynt.  Bydd unrhyw gyswllt yn cael ei drafod gyda'r cleient cyn y gwneir unrhyw gyswllt gyda thrydydd parti.
  • • Fel sefydliad elusennol, cynhelir archwiliadau trydydd parti i asesu ansawdd ein ffeiliau achos.  Gall hyn ein cynorthwyo i ganfod gwell gwybodaeth gan sicrhau fod ein gwaith o safon uchel.  Byddwn felly yn achlysurol yn gofyn eich caniatâd i’ch ffeil chi fod ymhlith y rhai y gellid edrych arnynt.

3. Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu data personol ein cefnogwyr, ein cwsmeriaid ac aelodau.  Bydd unrhyw fanylion a roddwch i ni yn cael eu dal gennym yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) (Rheoliad (UE) 2016/679). Age Cymru Gwynedd a Môn (gan gynnwys ei gwmnïau cysylltiedig ag is-gwmni (au) yw unig berchennog y wybodaeth a gesglir ar y Safle hwn.  Ni fyddwn yn gwerthu, rhannu neu rentu'r wybodaeth hon i drydydd partion, oni bai bod gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny, neu lle bo hynny’n  ofynnol yn ôl y gyfraith, er enghraifft, gan orchymyn llys neu at ddibenion atal twyll neu droseddau eraill.  Lle boch chi wedi rhoi caniatâd i ni, fe allwn gysylltu â chi mewn perthynas â gwasanaethau a chynnyrch era

4. Sut y gallwch chi gael mynediad, diweddaru neu ddileu eich gwybodaeth

Mae cywirdeb eich gwybodaeth yn bwysig i ni.  Rydym yn gweithio ar ddulliau i'w gwneud yn haws i chi adolygu a chywiro'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.  Yn y cyfamser, os ydych chi'n newid cyfeiriad e-bost, neu os oes unrhyw wybodaeth arall sydd gennym yn anghywir neu'n nad yw’n gyfredol, anfonwch e-bost atom ar info@acgm.co.uk, neu ysgrifennwch atom yn Y Cartref, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd LL547UW.  Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth sydd gan Age Cymru Gwynedd a Môn amdanoch chi, a chaiff yr wybodaeth ei anfon atoch o fewn 30 diwrnod.

Os nad ydych eisiau parhau i dderbyn gwybodaeth gennym drwy e-bost, yna anfonwch e-bost i info@acgm.co.uk <mailto:info@acgm.co.uk> gan ddefnyddio'r pennawd optio allan.

5. Camau diogelwch sydd mewn lle er mwyn amddiffyn colli, camddefnyddio neu newid eich gwybodaeth (gwefan)

Pan fyddwch yn darparu eich gwybodaeth bersonol i ni,  byddwn yn cymryd camau i sicrhau ei fod yn cael ei drin yn ddiogel.  Pan fyddwch ar dudalen ddiogel, bydd eicon clo yn ymddangos ar waelod porwyr gwe megis Microsoft Internet Explorer.

Ar ein gwefan mae manylion ddi-sensitif (eich cyfeiriad e-bost ac ati) yn cael eu trosglwyddo fel rheol dros y Rhyngrwyd, ac nid oes byth gwarant fod hyn yn 100% diogel.  O ganlyniad, er ein bod yn ymdrechu i amddiffyn eich gwybodaeth bersonol, ni all Grŵp Age Cymru Gwynedd a Môn warantu unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei drosglwyddo i ni, a'ch bod chi'n gwneud hynny ar eich risg eich hunain.  Unwaith y byddwn yn derbyn eich gwybodaeth, rydym yn gwneud yr ymdrech orau i sicrhau ei ddiogelwch ar ein systemau.  Lle rydyn ni wedi rhoi cyfrinair (neu lle rydych chi wedi dewis cyfrinair) sy'n eich galluogi i gael mynediad i rannau penodol o'n Safleoedd, rydych chi'n gyfrifol am gadw'r cyfrinair hwn yn gyfrinachol.  Gofynnwn i chi beidio â rhannu eich cyfrinair gydag unrhyw un.

6. Amodau ynglŷn â defnyddio ein gwefan

Bydd unrhyw gyfathrebu neu ddeunydd y byddwch yn ei drosglwyddo, neu bostio arno, i unrhyw ardal gyhoeddus o'r Safle, gan gynnwys unrhyw ddata, cwestiynau, sylwadau, awgrymiadau, adolygiadau neu debyg, yn cael eu trin, fel gwybodaeth di-gyfrinachol ac di-berchennog.  Wrth gael mynediad i'r fforwm trafod, rydych chi'n cytuno peidio â chyhoeddi, postio, dadansoddi, dosbarthu neu drosglwyddo unrhyw ddeunydd neu wybodaeth ddifenwol, dramgwyddus, anweddus neu sydd fel arall yn anghyfreithlon neu  yn wrthwynebus ei natur.

Ni fydd Grŵp Age Cymru Gwynedd a Môn yn gyfrifol am unrhyw ddefnyddiwr sy'n postio unrhyw ddeunydd difenwol, anweddus neu anghyfreithlon arall.   Mae gan Age Cymru Gwynedd a Môn yr hawl i gael gwared ar unrhyw ddeunydd neu bost rydych yn rhoi ar y Safle hwn yn ôl ei ddisgresiwn.

Os ydych chi'n 16 oed neu'n iau, rhaid cael caniatâd rhagflaen eich rhiant / gwarcheidwad unrhyw adeg y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol i'r Safle.  Ni chaniateir i ddefnyddwyr heb y caniatâd ddarparu gwybodaeth bersonol i ni.

7. Beth sy'n digwydd ar ôl i'r achos / gwasanaeth gael ei gwblhau

Bydd eich cofnodion papur yn cael eu dinistrio a bydd eich cofnod ar-lein yn anweithredol, nid ydym yn dileu eich cofnod ar-lein oni bai eich bod n gofyn i ni  wneud hynny, gan y gall yr wybodaeth yma fod  yn berthnasol i gleientiaid sy'n dychwelyd atom ac i bwrpasau adrodd.

Er mwyn dileu eich cofnod, cysylltwch â'r rheolwr achos neu ysgrifennwch atom yn Y Cartref, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UW.

8. Cysylltwch â ni

Os ar unrhyw adeg yr hoffech chi gysylltu â ni gyda'ch barn ar ein harferion preifatrwydd, neu gydag unrhyw ymholiad sy'n ymwneud â'ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud hynny trwy anfon e-bost atom i  info@acgm.co.uk  neu drwy ffonio ni ar 01286 677 711.