Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Edrych am rhywbeth hwyliog i wneud? Beth am godi’r nodwyddau gwau a ddod yn 'Big Knitter'!

'Nid yw codi arian erioed wedi bod mor syml’

Mae Age Cymru Gwynedd a Môn yn cymryd rhan yn y “big knit” eleni er mwyn codi arian ar gyfer pobl hŷn yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Ar gyfer pob het y byddwch yn wau byddwn yn derbyn 25c, bydd yr hetiau yna’n cael eu gwerthu ar boteli “innocent smoothie” drwy’r DU

Bydd pob ceiniog a godir drwy’r ymgyrch yma’n cael ei wario’n lleol ar brosiectau cadw’n gynnes y gaeaf hwn.

trwy wau hetiau bychan ar gyfer poteli “smoothie”, mae eich cyfraniad yn ein galluogi i dalu am gynghorydd budd-daliadau am fis. Mae hyn yn ein cynorthwyo i godi £100,000 mewn budd-daliadau i bobl hŷn yng Ngwynedd ac Ynys Môn am fis.

Er mwyn cymryd rhan pam ddim lawrlwytho un o’r patrymau yma, neu creu patrwm eich hunain! Os byddai’n well gennych dderbyn patrwm drwy’r post cysylltwch â ni os gwelwch yn dda fel fod modd i ni drefnu i’w bostio.

Os gwelwch yn dda, gadewch eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt er mwyn i ni allu diolch i chi.


Gellir anfon eich hetiau i ni yn:
The Big Knit, Y Cartref, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd LL54 7UW 


Diolch yn fawr