Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Dyma wasanaeth sydd yn cefnogi teuluoedd a gofalwyr i gyflawni eu hanghenion ac yn darparu canlyniadau gorau posibl i unigolion sydd yn dymuno byw’n annibynnol yn eu cartrefi a chymunedau eu hunain.

Wrth i ni fynd yn hŷn gall cwblhau tasgau pob dydd fel glanhau ein cartref, paratoi pryd o fwyd fod yn anodd neu efallai bod angen rhywun i aros gyda pherthynas tra’ch bod yn mynd allan. Gallwn ddarparu gwasanaeth proffesiynol a fydd yn cynorthwyo’r unigolyn â thasgau a gweithgareddau pob dydd o amgylch y cartref. 

 
Beth allwn ni ei wneud i helpu
  • Glanhau eich tŷ 
  • Golchi a smwddio dillad gwely
  • Byddwn yn cynnal tasgau amrywiol, megis casglu pensiwn, cerdded y ci, mynd am dro ayb.
  • Paratoi pryd o fwyd
  • Gwasanaeth eistedd
Y gwasanaeth
Mae sefydlu’r gwasanaeth sydd yn addas i'ch anghenion personol yn syml. Am fanylion pellach cysylltwch â 01286 685911.  
Er mwyn i ni ddarparu’r gwasanaeth glanhau bydd angen i chi ddarparu eich cynnyrch glanhau eich hunain, bydd hyn hefyd yn cynorthwyo i gadw'r gost i lawr.
Cytuno ar eich cynllun gofal eich hunain, a byddwn ni’n gofalu am bopeth i’ch cefnogi. Mae tâl am y gwasanaeth hwn. Gallwch drefnu taliad banc neu daliadau dros y ffôn. Byddwn yn eich anfonebu ar gyfer y gwasanaeth pob mis er mwyn i chi gadw cofnod cywir.
.
Ein staff
Mae ein staff gofal yn
cwblhau proses ddethol ac archwilio trylwyr cyn cyflogaeth, mae hyn yn cynnwys gwiriad DRB gwell.
Byddwn yn ceisio darparu’r gwasanaeth yn yr iaith o’ch dewis.
 
Cysylltwch â ni
Telephone: 01286 685 735 


Adroddiad Arolygu