Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Mae’r Canolfannau’n cael eu datblygu er mwyn hyrwyddo lles a chreu cyfleoedd cyfarfod cymdeithasol ar gyfer y rhai dros 50 mlwydd oed sydd yn byw yng nghymunedau Gwynedd ac Ynys Môn. Maent yn darparu gweithgareddau o’ch dewis, ac yn gyfle i eistedd a chael paned a sgwrs, mewn lleoliad cymunedol lleol.

Pa weithgareddau sydd ar gael ar hyn o bryd? 
I enwi ychydig – Tai Chi, bowlio dan di, bingo, yoga, crefft, coginio, hanes lleol, hyfforddiant cyfrifiaduron, dyddiau agored a llawer iawn mwy. Datblygir y gweithgareddau o fewn y canolfannau wedi’i deilwra i anghenion y gymuned leol.

Ble mae’r Canolfannau?

  • Nefyn, Gwynedd Bala, Gwynedd
  • Dolgellau, Gwynedd 
  • Cricieth, Gwynedd 
  • Penrhyndeudraeth, Gwynedd 
  • Blaenau Ffestiniog, Gwynedd 
  • Brynsiencyn, Ynys Môn 

    A allaf fod o gymorth?

Diddordeb yn eich ardal leol, neu eisiau datblygu canolfan newydd drwy wirfoddoli? Cysylltwch â  01286 677711
Os hoffech wirfoddoli yn un o’n canolfannau cyfredol, os gwelwch yn dda cysylltwch â’n cydlynydd gwirfoddoli ar 01286 677711 er mwyn trafod pa gyfleoedd sydd ar gael.