Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Nôd Age Cymru Gwynedd a Môn yw cynnig gwasanaethau o safon uchel er mwyn cyfarfod a’ch  anghenion. Credwn ein bod yn cyrraedd y safon yma bron bob amser ac os ydych yn cytuno ein bod yn cyrraedd y safon gadewch i ni wybod. Er mwyn cadw safon uchel mae gennym weithdrefnau fel y gallwch adael i ni wybod pam nad ydych yn hapus wrth ddelio gyda ni - a hefyd pan ‘rydym yn llwyddo! Nodwch: Delir gyda bob cŵyn yn gyfrinachol. Mae perthynas dda gyda chi yn bwysig i ni a byddem yn disgwyl i ddatrys unrhyw gwynion cyn gynted â phosib ac yn anffurfiol. Yn y lle cyntaf disgwylir i chwi drafod unrhyw gŵyn gyda’r aelod o staff sydd yn sail i’r gŵyn.  

Os nad ydych yn hapus gyda Age Cymru Gwynedd a Môn gadewch i ni wybod

Os ydych yn anhapus gydag unrhyw wasanaeth gan Age Cymru Gwynedd a Môn cysylltwch gyda’r aelod o staff perthnasol, rheolwr neu’r Prif Weithredwr.

Os ydych yn anhapus gydag unigolyn o fewn Age Cymru Gwynedd a Môn, dylech yn y lle cyntaf ddweud wrth y person dan sylw. Os ydych yn teimlo nad yw hyn yn addas, yna siaradwch gyda rheolwr y person neu’r Prif Weithredwr.

Gwneud cwyn ysgrifenedig

Os nad ydych yn hapus gyda’r  ymateb, neu os ydych yn dymuno ymdrin a’r mater yn fwy ffurfiol,  gallwch ysgrifennu at y Prif Weithredwr. (Os yw’r cŵyn am y Prif Weithredwr gallwch ysgrifennu at y Cadeirydd.) Cedwir cofnod o bob cŵyn.  

 

Y nôd yw ymchwilio i bob cŵyn yn llawn ac i roi ateb i chi o fewn 28 diwrnod gwaith, gan amlinellu sut fyddwn yn delio gyda’r broblem. Os nad yw hyn yn bosib, rhoddir ymateb dros dro i chi gan nodi beth sydd wedi digwydd hyd yma neu beth sydd dan sylw.

 

Os nad ydych yn fodlon ar ôl i ni adrodd yn ôl ysgrifennwch at y Prif Weithredwr neu’r Cadeirydd. Os na ellir ddwyn y mater i ben, bydd y Cadeirydd / Prif Weithredwr yn adrodd i’r Bwrdd Rheoli nesaf, er mwyn iddynt benderfynu ar y camau nesaf.

Os ydych yn hapus gyda Age Cymru Gwynedd a Môn, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda

Os ydych yn hapus gyda gwasanaeth Age Cymru Gwynedd a Môn, siaradwch gyda’r aelod staff perthnasol, rheolwr neu Prif Weithredwr. Gobeithio y gwnewch ddefnyddio y ddau ddull i’n galluogi i ail edrych a cynllunio ein gwasanaethau.