Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Age Cymru Gwynedd a Môn wedi sicrhau cyllid gan Gyfamod y Lluoedd Arfog a Sefydliad y Cyn-filwyr i gefnogi Cyn-filwyr lleol a’u teuluoedd / gofalwyr yn ystod y cyfnod heriol rydym wedi’i wynebu.  Mae’r gwasanaethau dwyieithog rydym ni fel elusen leol yn eu darparu ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Darparu cyngor a gwybodaeth, a lle bo’n briodol cyfeirio unigolion at sefydliadau arbenigol y Lluoedd Arfog
  • Darparu cyfleoedd cymdeithasol a llesiant o’n hadeilad Y Cartref Bontnewydd (LL54 7UW) ac o’n Caffi Hafan Bangor (gallwn hefyd gyfeirio unigolion at y cyfleoedd cymdeithasol a llesiant yng Ngwynedd ac Ynys Môn sy’n cael eu darparu gan bartneriaid yn cynnwys o fewn ardaloedd Caergybi, Pwllheli a Bethesda)
  • Rydym hefyd ar hyn o bryd yn cydweithio gyda sefydliadau allweddol y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr yn lleol i sefydlu cyfleoedd cymdeithasol a llesiant ychwanegol gan gynnwys yn ardal De Gwynedd.

Rydym hefyd yn cynnig y gwasanaethau canlynol y telir amdanynt:

  • Darparu prydau poeth wedi eu danfon i'r cartref, a hefyd eitemau fel meddyginiaeth a hanfodion bwyd
  • Darparu gofal personol, gwasanaeth siopa, gwasanaeth eistedd i gynorthwyo gofalwyr

Os ydych angen rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn a/neu os hoffech wirfoddoli i ni i gynorthwyo gyda darparu’r gwasanaethau gwerth chweil hyn, cysylltwch ag Age Cymru Gwynedd a Môn drwy ffonio 01286 677711 neu e-bostio bethan@acgm.co.uk

Cliciwch ar y linc isod er mwyn derbyn gwybodaeth bellach am y Sesiynau Galw Fewn Cyn Filwyr yng Nghaergybi a Phwllheli

https://www.woodyslodge.org/how-woodys-can-help-you/veteran-drop-in-centres/

Logo ACGM.jpg logo AFC.png Logo VF.png