Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Mae ein grwpiau wythnosol yn lle gwych i gwrdd â phobl newydd tra'n cael hwyl yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau celf a chrefft.

Rydym yma dwywaith bob dydd Mawrth rhwng 10yb a 12yp a rhwng 2yp a 4yp yn Age Cymru Gwynedd a Môn, Y Cartref, Bontnewydd LL54 7UW

Cost

£4 

Os na allwch fynyrchu'r dosbarth yma?

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o Ganolfannau heneiddio’n dda yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Edrychwch ar ein tudalennau heneiddio’n dda i weld os ydynt yn cynnig dosbarthiadau cyfrifiaduron yn eich ardal chi.

Darganfyddwch fwy

I gael gwybod mwy neu archebu lle, cysylltwch â ni. Gallwch ddod o hyd i'n holl fanylion cyswllt ar ein tudalen cyswllt â ni.

Ewch i'n tudalen Cysylltu â ni

----------------------------------------------------------------------------

Arddangosfa Gelf Gwanwyn

Ar 21 Mai bydd aelodau'r clwb celf a chrefft yn cynnal arddangosfa ar y Syffrajets ac o under milk wood, dyma rai o straeon yr aelod.

 

Valarie

Gwnaethom gyfarfod Valerie pan fu iddi fynychu Diwrnod Agored yn Y Cartref.  Gwelodd hi beth oedd gennym i gynnig ac aeth ati  i gofrestru ar gyfer  prosiect Gwanwyn.

Roedd ganddi ddiddordeb mewn Celf a Chrefft ond oherwydd salwch roedd wedi colli ei hyder ac mi oedd yn hunan-feirniadol.

Ers treulio amser yn y clwb mae Valerie wedi gwneud grŵp newydd o ffrindiau. Mae hi’n mwynhau’r agwedd gymdeithasol ac mae ei gŵr yn ymuno yn rheolaidd gyda hi  am ginio ar ôl y sesiwn.

Mae ymuno yn y sesiynau yn rhoi rhywbeth i Valerie edrych ymlaen ato ac mae hi yn ofnadwy o falch  o gael dod 'nôl fewn i waith creadigol.

Heluwen

Un sy’n byw yn lleol yw Heulwen  a clywodd am y prosiect Gwanwyn drwy hysbyseb lleol. Daeth draw i weld beth oedd i’w gynnig  a  hynny yn sgil ei diddordeb mewn tecstiliau.

Mae bod yn rhan o’r grŵp wedi rhoi anogaeth iddi  weithio gartef i greu darnau hynod drawiadol.

Mae hi’n teimlo fod pawb yn y grŵp yn helpu ei gilydd, rhoi cymorth a rhannu syniadau. Roedd wedi chwarae gyda thecstilau yn y gorffennol ond ers bod yn y grŵp mae wedi darganfod cariad tuag at y grefft.

Tra bod Heulwen yn byw ei hun, mae treulio amser gyda’r grŵp wedi gwneud iddi deimlo ei bid yn rhan o deulu estynedig.   Er bod Heulwen ddim mor hyderus mewn gwaith peintio, mae Marian y tiwtor wedi rhoi  hyder ynddi i droi ei llaw at beintio ac mae’n  edrych ymlaen i ddatblygu ei sgiliau yn y maes yna.

Drwy fynychu’rr grŵp mae hi bellach wedi cychwyn gwirfoddoli yn Age Cymru Gwynedd a Môn

John

Roedd John yn aelod o Men’s Shed Caernarfon a phan glywodd am y Clwb Gwanwyn roedd yn awyddus iawn i ymuno.  Doedd gan John ddim llawer o hyder pan ddechreuodd ond mae ei sgiliau a hyder wedi gwella’n fawr.

Fel plentyn roedd John yn hoff iawn o gopïo lluniau ond ni ddatblygodd ymhellach.  Ers cychwyn y cwrs mae wedi datblygu ac yn drylwyr mwynhau'r gwaith celf wrth iddo greu llawer o baentiadau.

Mae yn edrych ymlaen am bob sesiwn ac wedi cychwyn gwneud gwaith cartref hefyd.

Mae teulu John wedi gweld cynnydd mawr yn ei les emosiynol.

Wrth fynychu’r grŵp mae o wedi gwneud ffrindiau newydd sydd yn rhoi anogaeth a chefnogaeth iddo.  Mae hefyd yn teimlo balchder wrth weld pobl eraill yn gwella ac wrth rannu syniadau.

Iris

Magodd Iris ddiddordeb ar ôl ymweld ag ein siop a siarad hefo aelod o staff. Daeth draw i ‘n  Caffi i gyflwyno ei hun ac i siarad am ei diddordeb.

Ers cael strôc roedd Iris yn rhan o grŵp ac yn rhedeg dim ond am gyfnod byr, ac fe arweiniodd hynny at iddi deimlo ar goll unwaith y daeth i ben. Erbyn nawr, mae hi wedi ail darganfod ymdeimlad o fwynhad ac o fod yn rhan o rywbeth.

Mae hi’n teimlo fel ei bod wedi dysgu cymaint a bod pawb yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r grŵp.  Er bod Iris yn llai hyderus na gweddill y grŵp mae’n teimlo fod pawb yn ei helpu, sydd yn arwain iddi fagu ei hyder.

Mae’n mwynhau pob agwedd o’r gwaith ac yn grediniol bod ei hyder yn codi yn wythnosol. Mae wedi agosáu at y grŵp a theimlo y byddent oll  yn ffrindiau gydol oes.

Linda

Cyn athrawes mewn ysgol gynradd yw Linda gyda dawn mewn crefftau .

Ar ôl ymddeol o’r ysgol, roedd Linda yn pendroni am be byddai’n gallu wneud i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Roeddem  yn lwcus iawn ei bod wedi penderfynnu  gwirfoddoli  gyda Age Cymru
Gwynedd a Môn yn Y Cartref.

Cymerodd ddiddordeb yn ein Clwb Celf a gwelodd siawns i ail gydio yn ei chrefft o waith celf.

Mae Linda yn unigolyn dawnus iawn sydd yn rhan gwerthfawr o’r grŵp.

Suzanne

Mae Suzanne yn gymeriad hwyliog iawn sydd yn aelod cyson o’n gweithgareddau yma yn Y Cartref.  Mae hi hefyd yn gwneud gwaith gwirfoddol yma.

Mae hi’n cael pleser mawr allan o’r gwaith celf ac yn gwneud gwaith ffeltio ardderchog.

Mary

Ganwyd Mary yn  Neuadd Swarthmoor ble roedd George Fox Quaker yn byw.  Mae hi  wedi symud i Gaernarfon er s 12 mis bellach.

Dysgodd celf yn yr ysgol ac enillodd wobrau am ei gwaith.

Cafodd  yrfa  yn trin  gwallt ac roedd ganddi salon o’r enw “Mary’s”

Siaradodd gyda  un o’m swyddogion yn ein siop elusen ac roedd ganddi ddiddordeb cymryd rhan yn ein dosbarthiadau celf a threfnu blodau.

Erbyn hyn mae Mary wrth ei bodd fod yn rhan o’r grŵp wrth wneud ffrindiau newydd a dysgu rhywbeth newydd yn gyson.

Tony a Ellen

Mae Ellen yn ysgrifennydd Clwb Pensiynwyr Nefyn. Dychwelodd  y ddau yma i agoriad swyddogol Y Cartref yng Ngorffennaf 2017 oherwydd y cysylltiad personol bod aelod o deulu Tony , gwr Ellen, wedi bod yma fel plentyn.

Mae gan Ellen diddordeb yn yr ochr tecstilau a Tony hefo’r celf.

Hoffent gwrdd â siarad gyda phobl o’r un meddylfryd a maent  yn teimlo bod y grŵp fel teulu estynedig.

Dywedodd Ellen bod hi wedi gweld ochr i Tony nad edd erioed wedi ei weld yn ei 48 mlynedd o briodas a bod ganddo ddawn roedd yr un ohonynt hwy yn gwybod amdano.   Mae’r ddau wrth ei boddau bod yn rhan o’r grŵp ac yn hoffi rhoi cefnogaeth i eraill ac wedi dysgu llawer mwy.

Gwenfor

Clywodd Gwenfor am y Clwb Celf drwy ffrind.  Mae’n awyddus i ddarganfod beth sydd yn mynd ymlaen yn y gymuned ac yn hoffi trio pethau gwahanol.

Mae Gwenfor yn rhoi llawer yn nol i’r gymuned drwy wirfoddoli i wahanol fudiadau.

Hoffai weu a chrosio ac mae hi wrth ei bodd yn dysgu crefftau newydd a gwella’u sgiliau. Wrth ymuno ar grŵp mae hi wedi gwneud ffrindiau newydd ac yn edrych ymlaen at ddod yn wythnosol.

David

Pan glywodd David am y dosbarthiadau neidiodd ar y cyfle i ymuno. Roedd ganddo gariad at gelf ac roedd yn amser iddo ail afael yn y grefft.  Gyda chefndir saer llongau roedd wedi arfer gweithio a’i ddwylo a hoffi defnyddio arddull ei hunain.

Mae wedi colli'r amser yma ar ôl dioddef o salwch.

Chwiliodd am gymorth gan Age Cymru Gwynedd a Môn  ac wedyn arweiniodd iddo ymuno â’r grŵp.

Ers aelodi mae David yn mwynhau cyfarfod pobl newydd, cael hwyl yn trochi ei hun i mewn i’r gwaith gan barhau wrthi hedfyd adref  yn ei gartref.

Meirion

Roedd Meirion yn arfer bod yn aelod o Men’s Shed Caernarfon pan glywodd am ddosbarthiadau Celf yn Y Cartref.  Mae wedi bod â diddordeb yn gelf ers ei ddyddiau ysgol a mae hefyd yn aelod o Glwb Celf Hafan Elan.

Mae gwneud gwaith Celf yn help mawr i Meirion ac yn gwneud iddo ymlacio. Cafodd gyfnod o salwch a chollodd lawer o bwysau felly mae’n hoffi dod i’r Cartref Iigael mwynhau cwmniaeth a chael bwyd maethlon.

Drwy ddysgu pethau newydd yn y dosbarth, mae’n annog Meirion  i barhau gyda’r gwaith yn ei gartref a theimlai ei fod wedi gwneud ffrindiau newydd yn y dosbarth.

Geraint

Er Cof am Geriant

Ysgrifennwyd y proffil yma o Geraint pan oedd ym mynychu’r dosbarth.  Mae hiraeth mawr Iddo yn y Clwb Celf a  rydym oll yn mawr deimlo ei golled.

Cafodd Geraint ei  gyfeirio yma gan Y Groes Goch. Mi oedd angen cymorth i fynd allan o’r tŷ oherwydd dioddef gyda ei  nerfau yn sgil  salwch difrifol.

Mae Geraint wedi dioddef yn aruthrol gyda salwch ond wth ei fodd yn ymuno’r grŵp ac yn dweud fod Marian y tiwtor yn ei annog a’i ysbrydoli.

Roedd Geraint wastad wedi mwynhau
arlunio ond ddim yn cael amser i’w wneud oherwydd byw bywyd prysur yn gweithio fel prifathro. Mae ei hyder wedi codi gyda’r gefnogaeth mae wedi ei dderbyn.

Ar ddiwedd y prosiect yn ystod yr
arddangosfa yn 2018, cododd Geraint gan  diolch i bawb am y cyfle a gafodd.

Mae’r gefnogaeth a chyfeillgarwch wedi bod o gymorth aruthrol i’w wraig, sydd yn ymuno a’r grŵp am ginio ar ôl pob sesiwn.

Rydym yn falch iawn o Geraint sydd wedi gwerthu rhai o’i ddarnau gwaith sydd wedi bod yn hwb mawr iddo.

 

The Tutors

Diolch yn fawr iawn i Marian Sandham a Rhiannon Parry