Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Pam ddim cynnwys eich cydweithiwr, ffrindiau a theulu, neu unrhyw grwpiau neu glwb rydych yn perthyn iddo, i gymryd rhan. Mae hyn ar gyfer achos da.

Beth sydd yn gyfle da er mwyn codi arian?

Gall unrhyw beth fod yn gyfle da er mwyn codi arian. Beth hoffech chi wneud? Parti gwledda, dangosiad ffilm, tynnu cerbydau a thorri gwallt i steil ddifrifol? Neu dod fyny gyda syniad eich hunan.

Rhai pethau i'w hystyried:

  • A fydd yn weithgaredd noddedig neu a ydych chi'n cynnal digwyddiad?
  • Beth ydych chi'n ei fwynhau?
  • A all unrhyw un eich helpu?

A ydych yn rhoi ysyriaeth i faint o amser ac ymdrech rydych yn fuddsoddi ar gynllunio a threfnu'r digwyddiad. Cofiwch eich bod yn gwneud rhywbeth da i elusen, felly dylsai fod yn hwyl hefyd


6 digwyddiad codi arian poblogaidd

1. Y Bacen Cacen Fawr

Annog eich cydweithwyr i ddod â chacen cartref (neu wedi ei brynu o siop) i'w gwerthu yn y swyddfa. Mae'n ffordd syml o godi arian a gan yn ogystal â chodi'r ysbryd mewn egwyl paned bore.

2. Cynnal cwis

Cynhelir nosweithiau cwis mewn tafarndai ar hyd y DU ac maent bob amser yn boblogaidd. Beth am drefnu cwis eich hunain gan godi arian ar gyfer Age Cymru Gwynedd a Môn?

3. Cynnal parti

Efallai cynnal parti ciniawa gyda them penodol, noson datrys dirgelwch, noson gemau, karaoke, barbeciw - os yw'n llwyddo dod a pobl ynghyd, yna gall fod yn fodd o godi arian.

4. Unrhyw beth noddedig

Nofio, cerdded, rhedeg, bod yn dawel, a bwyta pei! Gall y mwyafrif o bethau gael eu noddi felly mae’r dewis chi. Beth fyddai'ch ffrindiau a'ch cydweithiwr yn ystyried fel her? Efallai eu bod o'r farn na allwch fyw heb eich iffôn neu fynd heb ddefnyddio eich cerbyn i fynd i bobman. Profwch nhw yn anghywir drwy godi arian i bobl hŷn

5. Ewch yn wyllt

Gadewch i'ch dychymyg redeg yn wyllt - po fwyaf creadigol yr ydych yna posib y derbyniwch fwy o gyhoeddusrwydd a mwy o bobl yn eich cefnogi, a oes record byd y gallwch geisio dorri neu weithgaredd fydd yn cynnwys eich holl gydweithwyr?

6. Codi arian ar-lein

Oeddech chi’n gwybod po bynnag adeg y byddwch yn prynu unrhyw beth ar-lein – o’ch siopio wythnosol i’ch gwyliau blynyddol – gallwch fod yn sicrhau rhodd yn rhad ac am ddim ar gyfer Age Cymru Gwynedd a Môn?

Mae bron i 3,000 o fanwerthwyr yn barod i roi cyfraniad, gan gynnwys Amazon, John Lewis, Aviva, thetrainline a Sainsbury's – nid yw’n costio ceiniog yn ychwanegol i chi!

Mae’r broses yn syml iawn, y cwbl sydd yn rhaid i chi ei wneud yw:

1. Ymuno.

Ewch i https://www.easyfundraising.org.uk/causes/agegwynedd/   ac arwyddo fynyd yn rhad ac am ddim.

2. Siopio.

Pob tro yr ydych yn siopio ar-lein, ewch yn gyntaf i “easyfundraising”, dewis y manwerthwr ac yna dechrau siopio.

3. Codi arian.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich siopio, bydd y manwerthwr yn gwneud cyfraniad i’ch achos da a hynny  heb unrhyw gost ychwanegol!

Nid oes unrhyw gostau cudd ac mi fydd Age Cymru Gwynedd a Môn yn ddiolchgar iawn am eich cyfraniadau.

Rydyn ni yma i helpu

Rydyn ni yma i helpu gyda cyngor, syniadau a chymorth yn ogystal â phosteri, tuniau casglu, balwnau a ffurflenni nawdd. Gallwn rannu awgrymiadau yn amrywio o roddi cymorth ar sicrhau pethau yn rhad ac am ddim,  i sut i fynd ati i farchnata eich ymgymrych codi arian. Peidiwch â bod yn swil, rhowch alwad i ni!

Gadewch i ni wybod beth yw eich cynlluniau a sut a allwn eich helpu - anfonwch e-bost at info@acgm.co.uk neu ffoniwch ni ar 01286 677711.

Talu eich arian i mewn.

Mae yna lawer o wahanol ddulliau i dalu yr arian a godwyd ganddoch,

1. Drwy ein tudalen just giving yma

2. Trosglwyddo drwy BACS Sort code 40-16-02  Account - 71755633

3. Neu drwy siec yn daladwy i Age Cymru Gwynedd Môn a'i anfon at Age Cymru Gwynedd a Môn, Y Cartref, Bontnewydd LL547UW