Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Couple on a beach 

Mae Age Cymru Gwynedd a Môn wedi ymrwymo i fod yno i’r bobl hyn hynny sydd ein hangen.  Os ydych yn penderfynu gadael rhodd yn eich ewyllys i ni, byddwch yn ein cefnogi i wneud bywyd yn well i bobl hyn yng Ngwynedd a Môn.

Mae unrhyw rodd yn hanfodol i Age Cymru Gwynedd a Môn ac rydym yn wir werthfawrogi unrhyw rodd y gadewch i ni wedi i chi gymryd gofal o’ch teulu a ffrindiau.  Pa bynnag fydd gwerth y rhodd, fe aiff yn bell iawn o ran rhoi cymorth i rywun sydd ein hangen.

Sut i adael rhodd yn eich ewyllys

Bydd cael ewyllys a’i gadw yn gyfredol ein eich helpu i sicrhau caiff eich dymuniadau eu parchu a bod eich eiddo ac asedau yn cynnig budd i’r bobl ac achosion hynny rydych wirioneddol yn garu ac sydd yn bwysig i chi. Rydym bob amser yn eich cynghori i chi siarad gyda rhywun â chymhwyster proffesiynol megis cyfreithiwr, wrth lunio neud newid geiriad a chynnwys eich ewyllys.

Gall eich cyfreithiwr eich cynghori ar y geiriad priodol er mwyn sicrhau gwireddu eich dymuniadau. Os dymunwch adael rhodd yn eich ewyllys i Age Cymru Gwynedd a Môn, yr hyn fydd angen arnoch yw manylion ein helusen sydd isod:

Age Cymru Gwynedd a Môn, Y Cartref, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UW a rhif cofrestredig ein helusen yw 1143587

Os oes ewyllys gennych eisoes

Os ydych eisoes gydag ewyllys ac eisiau cynnwys rhodd ynddo i Age Cymru Gwynedd a Môn, mae’n bosib na fydd angen ei ail-ysgrifennu. Gallwch ofyn i berson cymwys proffesiynol fel cyfreithiwr ychwanegu diwygiad (a elwir yn godisil). Fel rheol gyffredinol, os yw’r newid yr hoffech wneud yn weddol fychan neu syml, gallwch ddefnyddio codisil, ac os yw’r newid yn un fwy sylweddol neu gymhleth yna dylech baratoi ewyllys newydd.

Pa fath o rodd y gallaf adael i Age Cymru Gwynedd a Môn?

Gallwch adael swm penodol o arian neu eitem fel gemwaith neu ddarn o waith celf. Neu gallwch adael cyfran o, neu i gyd, o’r hyn sydd yn weddill o werth eich ystâd unwaith fydd teulu a ffrindiau wedi cael eu gofalu amdanynt. Mantais gadael cyfran (sydd yn cael ei adnabod fel rhodd weddilliol) yw ei fod yn parhau'r un fath dros amser, ac na fydd angen chi newid eich ewyllys er mwyn cadw fyny gyda chwyddiant.

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy

Os oes gennych ddiddordeb mewn gadael anrheg yn eich ewyllys ac am ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni a byddem yn hapus i siarad â chi ymhellach.