Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

A YDYCH YN CLIRIO’R TŶ DROS DYMOR YR HYDREF?

Cyhoeddwyd ar 21 Medi 2018 01:15 yh

A ydych ar hyn o bryd yn clirio’r tŷ a hithau yn dymor yr hydref?

Bydd Age Cymru Gwynedd a Môn yn falch iawn o allu derbyn unrhyw eitemau diangen o ddodrefn, dillad, bric a brac, llyfrau, CDs a DVDs.  Gallwn werthu y rhoddion yma yn ein 4 Siop Elusen a leoli’r yng Ngaernarfon, Blaenau Ffestiniog, Porthmadog ac Llangefni er mwyn codi incwm gwerthfawr iawn er mwyn ariannu ein ystod o wasanaethau sydd yn hyrwyddo llesiant y boblogaeth 50oed a throsodd yn lleol ac er mwyn mynd i’r afael ac unigedd ac ynysu cymdeithasol.

A fyddech hefyd cystal ag ystyried Rhodd Gymorth gan y byddai eich rhoddion yn codi 25% fwy o incwm i ni heb gostio dim i chi!

A FYDDECH MOR GAREDIG A DOD A’CH RHODDION I UNAI UN O’N 4 SIOP NEU DDOD A HWY I Y CARTREF BONTNEWYDD NEU I’R UNED SORTIO RHODDION YN UNED 14, PARTH 5, STAD DDIWYDIANNOL CIBYN CAERNARFON.

Cysylltwch â ni  ar 01286 685 921 am ragor o wybodaeth neu e-bostio aled@acgm.co.uk