Mae Age Cymru Gwynedd a Mon yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i'n polisi. Rwy'n darllen mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a sut y gallwch eu rheoli. Darllenwch ein polisi cwci
Scipiwch i'r cynnwys

Age Cymru Gwynedd a Môn yn sicrhau cyllid er mwyn parhau i gefnogi’r gymuned leol yn ystod cyfnod Covid-19

Cyhoeddwyd ar 08 Rhagfyr 2020 12:41 yh

Rydym yma yn Age Cymru Gwynedd a Môn wedi derbyn newyddion da yn ddiweddar ein bod yn llwyddiannus o ran denu arian o Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol Llywodraeth Cymru (a weinyddir gan WCVA), a hefyd  o’r Gronfa Gymunedol Pawb a’i Le (Loteri) er mwyn darparu prosiect cefnogi’r henoed a'r bregus yn y gymuned wrth iddynt gysgodi o Covid-19 a hefyd i'r dyfodol pa Text n fydd cyfyngiadau yn cael eu llacio.  Bydd hyn yn cyfrannu at les y gymuned mewn cyfnod lle fydd lefelau unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn uwch oherwydd Covid-19.

Meddai Eleri Lloyd Jones, Prif Swyddog Age Cymru Gwynedd a Môn :

“Bydd y cymorth ariannol yma yn ein galluogi i barhau i fod yn rhagweithiol yn ein cymunedau gan ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn cyfnod lle bo lefelau unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn uwch oherwydd Covid-19.  Byddwn yn darparu a chludo prydau poeth a hanfodion i gartrefi pobl, wrth gadw mewn cyswllt ac ymgymryd â galwadau ffôn rheolaidd yn ogystal â darparu cyngor a gwybodaeth lle bo angen.  Rydym yn hynod falch o dderbyn yr arian yma mewn cyfnod ansicr iawn yn ariannol i elusennau lleol.”

Mae darpariaeth Pryd ar Glud ar gael o'r Cartref Bontnewydd yn ddyddiol o Lun i Wener gydag oddeutu 200 pryd yn mynd allan yn wythnosol.  Yn ogystal mae Pryd ar Glud ar gael yn ardal Penygroes drwy’r staff Clwb Cinio a hynny ar ddyddiau Mercher a Gwener.

Yn ystod cyfnod Covid-19 rydym wedi bod yn hynod ffodus o ran ymroddiad a gwaith caled y nifer o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn ein cynorthwyo gyda'r gwaith sicrhau fod pobl yn ddiogel yn eu cartrefi ac yn  y gymuned.  Mae un gwirfoddolwr yn arbennig wedi mynd ati a chreu dros 1,000 o fasgiau wyneb  i ni allu dosbarthu yn y gymuned ac rydym yn hynod ddiolchgar o hynny.

Os ydych mewn angen unrhyw un o’r gwasanaethau rydym yn gynnig NEU os oes ydych â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni a chynorthwyo'r gymuned leol yn y cyfnod heriol yma, yna hoffwn glywed gennych chi! Gallwch gysylltu gyda ni ar 01286 685 921 neu aled@acgm.co.uk